Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Tîm Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae'r Gwasanaeth Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn sicrhau bod Plant a Phobl Ifanc sydd â'r Anghenion Dysgu Ychwanegol mwyaf cymhleth (ADY) yn cael y Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol (DDY) sy'n ofynnol i ddiwallu eu hanghenion a nodwyd a chyflawni'r canlyniadau gorau posibl yn ystod eu hamser ym maes Addysg.

Mae'r Gwasanaeth yn cynnwys amrywiaeth o swyddogion medrus gan gynnwys:

  • Gweithwyr achos
  • Swyddogion Pontio a Phartneriaeth
  • Swyddogion Adolygiadau sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (PCR) a Chynllun Datblygu Unigol (CDU)
  • Swyddog Systemau a Phrosesau CDU
  • Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (ADY)
  • Swyddog Arweiniol ADY o oedran ysgol
  • Swyddog Arweiniol ADY ôl-16
  • Swyddogion Cefnogi ADY Blynyddoedd Cynnar
  • Swyddogion Clerig

Yr hyn rydym yn ei wneud

Mae gan y gwasanaeth sawl swyddogaeth, sy'n gysylltiedig â'r prosesau statudol a amlinellir yng Nghod Ymarfer statudol Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) Cymru a Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru.​

Dyma'r rhain:

  • trefnu ceisiadau asesu i ystyried Cynllun Datblygu Unigol a Gynhelir gan yr Awdurdod Lleol (CDU)
  • cydlynu gwneud penderfyniadau mewn perthynas â cheisiadau asesu.
  • creu a chynnal CDU
  • ystyried argymhellion a wnaed mewn Adolygiadau sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (PCR) o Gynllun Datblygu Unigol
  • Cynnal Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) drwy ystyried argymhellion a wnaed mewn Adolygiadau Blynyddol
  • darparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad diduedd i ddisgyblion, rhieni/gofalwyr ac ysgolion mewn perthynas â systemau ADY ac ADY
  • darparu cymorth pontio ychwanegol i ddisgyblion ag ADY ar adegau allweddol yn eu haddysg

Cysylltu â ni

Additional Learning Needs Support Team
(01639) 763158 (01639) 763158 voice +441639763158