Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cefnogaeth ar gyfer Dysgu

Cwrdd â'r tîm

Mae'r gwasanaeth Cymorth ar gyfer Dysgu yn cynnwys y timau canlynol:

  • Anawsterau Dysgu
  • Anawsterau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu
  • Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig
  • Nam ar y Clyw
  • Nam ar y Golwg
  • Nam Amlsynhwyraidd
  • Therapi Galwedigaethol

Yr hyn a wnawn

Ffocws ein gwasanaeth yw sicrhau bod Plant a Phobl Ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cael eu cynnwys a'u cyflawni drwy:

  • Nodi'n gynnar ac ymyrryd yn effeithiol (gan gynnwys darparu therapi)
  • Cydweithio ag ysgolion a rhieni
  • Hyfforddiant o ansawdd uchel
  • Gweithio amlasiantaethol

Sut i gysylltu â ni

Gall ysgolion gael mynediad i'n gwasanaeth ar gyfer asesiad/cymorth disgyblion unigol drwy lenwi a dychwelyd ffurflen 'cais am ymgynghoriad'. Rhaid cael caniatâd y rhieni ar gyfer hyn.

Os hoffech gael mynediad i'n gwasanaeth ar gyfer eich plentyn, trafodwch gyda Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yr ysgol.

Trafodir y ceisiadau a dderbynnir yn fisol yn y Fforwm Cymorth Cyfathrebu, a fynychir gan gynrychiolwyr o bob rhan o'r timau yn y gwasanaeth.  Hysbysir ysgolion o'r canlyniadau yn fuan wedi hynny a byddant wedyn yn hysbysu rhieni.