Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Tîm Cymorth y Blynyddoedd Cynnar

Cwrdd â'r tîm

Rydym yn dîm o weithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar sy'n arbenigo mewn gweithio gyda phlant cyn oed ysgol (0-5).  Rhyngom mae gennym amrywiaeth o brofiad yn gweithio yn y sector gofal plant, addysg a seicoleg. Mae'r tîm yn cynnwys:

  • Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar, sy'n cydlynu cyfrifoldebau strategol yr Awdurdod Lleol dros gefnogi'r broses o nodi Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn gynnar mewn plant cyn oed ysgol ac sy'n cefnogi datblygiad cynlluniau ar gyfer plant ag anghenion difrifol a chymhleth.  Mae'r rôl hefyd yn cynnwys darparu hyfforddiant a chyngor codi ymwybyddiaeth ADY mewn lleoliadau cyn-ysgol yn CNPT, yn ogystal â chydweithio â gwasanaethau partner fel Iechyd a Gwasanaethau Plant.
  • Seicolegydd Addysg Arweiniol y Blynyddoedd Cynnar, a'i nod yw cefnogi / asesu plant gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau, yn unigol ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae rhagor o wybodaeth am y rôl hon ar gael yma.
  • Gweithiwr Allweddol Pontio Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar, sy'n gweithio'n bennaf gyda phlant cyn oed ysgol sydd ag anghenion difrifol a chymhleth ac sydd angen cynllunio cymorth pontio a chydgysylltu achosion. Mae'r rôl yn cynnig cyswllt allweddol i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol wrth gynnig cynllun cymorth pontio cyfannol i ysgol neu ddarpariaeth arbenigol.

Yr hyn a wnawn

Rydym yn gweithio’n agos gyda’n gilydd i sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel, sy’n cynnig cefnogaeth, strategaethau ac arweiniad i leoliadau ‘Blynyddoedd Cynnar’, ysgolion, rhieni / gofalwyr a’r holl asiantaethau eraill sy’n gweithio gyda phlant sydd wedi dod i’r amlwg neu wedi nodi Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Sut i gysylltu â ni

Gallwch ein cyrraedd gydag unrhyw ymholiadau drwy ein cyfeiriad e-bost eyaln@npt.gov.uk neu drwy ddefnyddio Llinell Gymorth Ymgynghori dros y Ffôn y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer Rhieni a Gofalwyr.

Mae gennym hefyd dudalen Facebook ‘Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Blynyddoedd Cynnar CNPT’