Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwasanaeth Lles ac Ymddygiad

Cwrdd â'r tîm

Mae'r Gwasanaeth Lles ac Ymddygiad yn rhoi cymorth i ysgolion, staff, disgyblion ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol (ACEY) a'u teuluoedd. Mae'r tîm yn cynnwys gweithwyr o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys gwaith ieuenctid ac addysgu, ond pob un â phrofiad helaeth o ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy'n agored i niwed.

Yr hyn a wnawn 

  • Ymyriadau yn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol ar gyfer disgyblion ag ACEY.
  • Cymorth i ysgolion. Mae hyn yn cynnwys datblygu dulliau ysgol gyfan, cynghori a darparu strategaethau i staff a meithrin gallu drwy fodelu a hyfforddi.
  • Cefnogaeth drosiannol ar draws cyfnodau allweddol, rhwng darpariaethau ac i gyrchfannau ôl 16 lle bo hynny'n briodol.

Sut i gael mynediad atom

Gall ysgolion gael mynediad i'r Gwasanaeth Lles ac Ymddygiad ar gyfer cymorth unigol i ddisgyblion drwy lenwi a dychwelyd ffurflen 'cais am ymgynghoriad'. Rhaid cael cais gan rhieni am hyn. Os hoffech gael mynediad i'n gwasanaeth ar gyfer eich plentyn, trafodwch gyda Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol.