Cefnogaeth ar gyfer Dysgu
Cwrdd â'r tîm
Mae'r gwasanaeth Cymorth ar gyfer Dysgu yn cynnwys y timau canlynol:
- Anawsterau Dysgu
- Anawsterau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu
- Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig
- Nam ar y Clyw
- Nam ar y Golwg
- Nam Amlsynhwyraidd
- Therapi Galwedigaethol
Yr hyn a wnawn
Ffocws ein gwasanaeth yw sicrhau bod Plant a Phobl Ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cael eu cynnwys a'u cyflawni drwy:
- Nodi'n gynnar ac ymyrryd yn effeithiol (gan gynnwys darparu therapi)
- Cydweithio ag ysgolion a rhieni
- Hyfforddiant o ansawdd uchel
- Gweithio amlasiantaethol
Sut i gysylltu â ni
Gall ysgolion gael mynediad i'n gwasanaeth ar gyfer asesiad/cymorth disgyblion unigol drwy lenwi a dychwelyd ffurflen 'cais am ymgynghoriad'. Rhaid cael caniatâd y rhieni ar gyfer hyn.
Os hoffech gael mynediad i'n gwasanaeth ar gyfer eich plentyn, trafodwch gyda Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yr ysgol.
Trafodir y ceisiadau a dderbynnir yn fisol yn y Fforwm Cymorth Cyfathrebu, a fynychir gan gynrychiolwyr o bob rhan o'r timau yn y gwasanaeth. Hysbysir ysgolion o'r canlyniadau yn fuan wedi hynny a byddant wedyn yn hysbysu rhieni.