Diwrnod Hawliau'r Gymraeg
Cynhelir Diwrnod Hawliau'r Gymraeg bob blwyddyn ym mis Rhagfyr ac mae'n nodi'r dyddiad y derbyniwyd Mesur y Gymraeg gan y Senedd. Mae'r Mesur yn cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg, ac yn sefydlu'r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru.
mae'r diwrnod yn gyfle gwych i hyrwyddo'n gwasanaethau Cymraeg, dathlu'n hiaith a'ch hawliau chi i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddelio gyda ni.
Mae gennych yr hawl i:
- Ysgrifennu llythyrau neu e-byst yn Gymraeg.
- Siarad â ni yn Gymraeg dros y ffôn.
- Derbyn llythyrau ac e-byst yn Gymraeg gennym
- Gweld ein gwefan yn Gymraeg
- Defnyddio'n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg
- Ymgeisio am swyddi yn Gymraeg
- Gwneud cwynion yn Gymraeg
Am ragor o wybodaeth am eich hawliau a defnyddio'r Gymraeg, ewch i:
- Ein gwe-dudalen Safonau'r GymraegSafonau'r Gymraeg
- Gwe-dudalen Fy Hawliau Iaith Comisiynydd y Gymraeg
Os ydych am ddysgu Cymraeg, gwella'ch sgiliau iaith, magu'ch plentyn yn ddwyieithog neu gael gwybodaeth am wasanaethau Cymraeg a dwyieithog yng Nghastell-nedd Port Talbot, ewch i'n gwe-dudalen
Rhagor o wybodaeth am ysgolion Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot.