Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Safonau'r Gymraeg

Ar 24 Mawrth 2015, derbyniwyd Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 yn Sesiwn Lawn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a osododd safonau ar gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru, awdurdodau parciau cenedlaethol a Gweinidogion Cymru.

Cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg hysbysiad cydymffurfio ar 30 Medi 2015 a oedd yn nodi pa safonau a oedd yn berthnasol i'r cyngor ac o ba ddyddiad.

Polisi ar ddyfarnu grantiau - (Gymraeg)

Cwynion Iaith Gymraeg

Ymdrinnir â chwynion sy'n ymwneud â'r Gymraeg neu â chydymffurfiad â safonau cyflwyno a pholisi gwasanaeth Cymraeg, fel y'u cymhwysir i'r cyngor, yn yr un modd ag unrhyw gwynion eraill a dderbynnir, ac ymatebir iddynt yn unol â Safonau'r Gymraeg.

Mae staff yn ymwybodol o ofynion y safonau drwy sesiynau hyfforddiant a ddarperir fel rhan o'r broses sefydlu ac ymgyrchoedd cynyddu ymwybyddiaeth cyfnodol.

Gellir cyfeirio cwynion sy'n ymwneud â derbyn gwasanaeth anfoddhaol, lle ystyrir bod y cyngor wedi trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg neu lle ceir honiad o ymyrraeth â'ch rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg hefyd at Gomisiynydd y Gymraeg:

Cyfarwyddiadau i CF10 1AT
Comisiynydd y Gymraeg
Siambrau'r Farchnad 5–7 Stryd y Santes Fair Caerdydd CF10 1AT pref
(0345) 6033 221 (0345) 6033 221 voice +443456033221

Ymdrinnir â chwynion a dderbynnir gan Gomisiynydd y Gymraeg yn unol â phroses gwynion y Comisiynydd.

Adroddiad a hysbysiad penderfyniad Comisiynydd y Gymraeg

Ymchwiliad gorfodi safonau: Adroddiad a hysbysiad penderfynu terfynol 21 Rhagfyr 2022

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi adroddiad yn ymwneud â chynnig i agor ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd ym Mhontardawe i gymryd lle'r tair ysgol gynradd arall.

Mae'r cyngor, yn dilyn apêl i Driwbiwnlys y Gymraeg, wedi derbyn yr argymhellion a geir yn yr hysbysiad penderfyniad.

Darllenwch yr adroddiad llawn - CS114 Adroddiad a hysbysiad penderfynu terfynol