Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Diwrnod Hawliau'r Gymraeg

Diwrnod Hawliau'r Gymraeg

Cynhelir Diwrnod Hawliau'r Gymraeg bob blwyddyn ym mis Rhagfyr ac mae'n nodi'r dyddiad y derbyniwyd Mesur y Gymraeg gan y Senedd. Mae'r Mesur yn cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg, ac yn sefydlu'r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru.

mae'r diwrnod yn gyfle gwych i hyrwyddo'n gwasanaethau Cymraeg, dathlu'n hiaith a'ch hawliau chi i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddelio gyda ni.

Mae gennych yr hawl i:

  • Ysgrifennu llythyrau neu e-byst yn Gymraeg.
  • Siarad â ni yn Gymraeg dros y ffôn.
  • Derbyn llythyrau ac e-byst yn Gymraeg gennym
  • Gweld ein gwefan yn Gymraeg
  • Defnyddio'n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg
  • Ymgeisio am swyddi yn Gymraeg
  • Gwneud cwynion yn Gymraeg

Am ragor o wybodaeth am eich hawliau a defnyddio'r Gymraeg, ewch i:

Os ydych am ddysgu Cymraeg, gwella'ch sgiliau iaith, magu'ch plentyn yn ddwyieithog neu gael gwybodaeth am wasanaethau Cymraeg a dwyieithog yng Nghastell-nedd Port Talbot, ewch i'n gwe-dudalen

Rhagor o wybodaeth am ysgolion Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot.