Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dysgu a defnyddio'r Gymraeg

Dysgu Cymraeg

Os hoffech chi ddysgu Cymraeg neu wella'ch sgiliau iaith, ewch i'r wefan Dysgu Cymraeg i gael gwybodaeth am gyrsiau yn eich ardal.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gwersi Cymraeg AM DDIM ar gael i unrhyw un rhwng 16 a 25 oed ac i bob ymarferydd addysg.

O fis Medi, bydd pobl 18 i 25 oed yn gallu cofrestru'n rhad ac am ddim ar gyrsiau gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot

Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot yn gweithredu ar draws y sir i annog a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.  Yn ogystal â rhoi'r cyfle i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, maent yn darparu gwybodaeth i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg ar fanteision dysgu Cymraeg a'r cyfleoedd i wneud hynny.

Am wybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau Cymraeg sy'n cael eu cynnal ar draws Castell-nedd Port Talbot i blant, pobl ifanc, teuluoedd a'r gymuned ehangach, ewch i'w gwefan Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot

Help gyda gwaith cartref Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot

Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot ynghyd â Menter Abertawe wedi creu adnodd i rieni â phlant sy'n derbyn addysg Gymraeg i'w helpu gyda gwaith cartref ac addysg. Mae grŵp Facebook newydd 'Welsh Homework Help in Swansea and NPT' ar gael i rieni a hefyd i athrawon sy'n barod i gynnig help a chefnogaeth. Mae'r grŵp yn galluogi aelodau i bostio cwestiynau/tasgau gwaith cartref penodol a chael help a chyngor gan aelodau eraill.

Os ydych yn rhiant a hoffech gael ychydig o help ymarferol gyda gwaith cartref, ymunwch â grŵp Facebook 'Welsh Homework Help in Swansea and NPT'.