Hysbysiadau am Dreth y Cyngor drwy negeseuon testun
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot bellach yn defnyddio negeseuon testun SMS i atgoffa preswylwyr bod yn rhaid iddynt dalu Treth y Cyngor. Bydd hwn yn helpu i leihau'r gost a gwella ansawdd y gwasanaethau y mae'r cyngor yn eu darparu.
Pam mae negeseuon testun yn cael eu defnyddio?
Bob mis, mae'n rhaid i ni atgoffa nifer o breswylwyr nad ydynt, am amrywiaeth o resymau, wedi talu Treth y Cyngor. Yn amlwg, byddai'n well gennym beidio ag anfon hysbysiadau atgoffa gan fod hwn yn costio llawer o arian o ran argraffu a phostio felly rydym yn chwilio am ffyrdd eraill o gysylltu â phreswylwyr yn effeithiol ac atal gorfod cymryd camau gweithredu ffurfiol eraill er mwyn adennill arian.
Byddwch yn derbyn neges destun dim ond os ydych wedi rhoi'ch rhif ffôn i ni ac os oes rhaid i ni anfon neges atoch i'ch atgoffa bod eich Treth y Cyngor heb ei thalu neu i ofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â'ch cyfrif, er enghraifft, i holi ynghylch cais neu adolygiad o ostyngiad neu eithriad.Bydd y neges yn dangos mai 'CBSCNPT' sydd wedi anfon y neges a bydd yn rhoi dolen i chi dalu drwy'n gwefan ddiogel.
A allaf ymateb i'r negeseuon rwy'n eu derbyn?
Ni allwch ymateb i'r negeseuon.Gallwch ddarparu/drafod unrhyw wybodaeth y gofynnwyd amdano drwy ffonio 01639 686188 neu e-bostio council.tax@npt.gov.uk. Cofiwch nodi'ch enw, eich cyfeiriad a'ch cyfeirnod treth y cyngor (y gellir dod o hyd iddo ym mhob dogfen a anfonwyd ac sy'n dechrau gyda 6).
A fyddaf yn derbyn negeseuon marchnata/sgrwtsh o ganlyniad?
Na fyddwch. Mae'r gwasanaeth yn gwbl gyfrinachol. Ni fydd y gwasanaeth hwn yn peri i unrhyw ddeunydd marchnata neu negeseuon testun gael eu hanfon i'ch ffôn ac ni roddir eich rhif i unrhyw gwmni neu sefydliad arall at ddibenion marchnata.
Sut ydw i'n cofrestru?
I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, llenwch y ffurflen hon