Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Talu Treth y Cyngor

Debyd uniongyrchol

Os ydych wedi derbyn nodyn atgoffa, hysbysiad terfynol, gwŷs neu unrhyw gamau gorfodi eraill NI ddylech lenwi'r ffurflen debyd uniongyrchol ar-lein ond cysylltwch â ni yn ddi-oed.

Debyd uniongyrchol yw'r dull hawsaf a mwyaf cyfleus o dalu. Gallwch dewis yn talu ar y 1af, 16eg neu'r 28ain o bob mis. 

Bydd angen:

  • eich cyfeirnod arnoch chi
  • enw'r banc, rhif y cyfrif, cod didoli
  • enw'r cyfrif

Taliad ar-lein

Mae talu ar-lein yn hawdd ac yn ddiogel a gellir ei wneud trwy'ch cerdyn debyd neu credyd. 

Bydd angen eich cyfeirnod arnoch chi.

Ffyrdd eraill i dalu eich Treth y Cyngor

Ffôn

Defnyddiwch ein rhif llinell dalu 24 awr 0161 622 6919.

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnom:

  • Eich Cyfeirnod Treth y Cyngor
  • Manylion eich cerdyn 

Swyddfa bost

Gallwch dalu yn unrhyw Swyddfa'r Post. Dim ond swm llawn y rhandaliad sy'n ddyledus y gallwch ei dalu. Rhaid i chi fynd â'ch bil Treth y Cyngor gyda chi bob tro y gwnewch daliad. Byddwch yn ymwybodol efallai na fydd eich taliad yn cyrraedd eich cyfrif am ychydig ddyddiau.

Taliadau siec

Dylech bostio taliadau siec i'r:

Yr Ariannwr
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Canolfan Ddinesig
Port Talbot
SA13 1PJ

Gwnewch sieciau'n daladwy i CBS Castell-nedd Port Talbot a sicrhewch eich bod yn nodi eich cyfeirnod treth y cyngor a'ch enw a'ch cyfeiriad ar gefn eich siec.