Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Rhyddfreinwyr ar y Tir

Y Dreth Gyngor a Rhyddfreinwyr ar y Tir

Mae'r mudiad Rhyddfreinwyr ar y Tir a grwpiau tebyg yn credu'n gyffredin eu bod wedi'u rhwymo ddim ond gan ddeddfau statud y maent yn cydsynio iddyn.

Nid yw bod yn 'rhyddfreiniwr' yn eithrio unrhyw berson rhag talu’r Dreth Gyngor. Nid yw’r Dreth Gyngor yn ddewisol ac nid yw’n rhywbeth rydych yn cydsynio iddo. Os ydych yn atebol i dalu Treth Gyngor, rhaid i chi wneud eich taliadau.

Mae'r atebolrwydd i dalu Treth Gyngor yn dod o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a rheoliadau diweddarach. Mae hwn yn statud a grëwyd gan Senedd y Deyrnas Unedig a etholwyd yn ddemocrataidd sydd wedi derbyn cydsyniad y Goron.

Am ragor o wybodaeth gweler: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (legislation.gov.uk)

Mae'r Atebolrwydd i dalu Treth Gyngor yn cael ei osod gan Reoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992. Mae hyn yn rhoi'r hawl i awdurdodau lleol fynnu Treth Gyngor a ddefnyddir i ariannu gwasanaethau lleol hanfodol.

Am ragor o wybodaeth gweler: Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (legislation.gov.uk)

Nid yw eich atebolrwydd am dreth gyngor yn ddibynnol ar eich cydsyniad nac yn gofyn amdano, nac ar fodolaeth perthynas gytundebol gyda'r cyngor. Mae unrhyw honiad i'r gwrthwyneb yn anghywir ac nid oes sail gyfreithiol i wneud y ddadl hon arno.

Mae dadleuon Rhyddfreinwyr ar y Tir wedi cael eu hystyried gan y llysoedd a dyfarnwyd yn eu herbyn a bydd unrhyw un sy'n atal taliad, yn agored i gamau adennill a gymerir yn eu herbyn. Pe bai angen i'r Cyngor gymryd camau adennill bydd costau ychwanegol yn cael eu hychwanegu i swm sy'n ddyledus.

Yn achlysurol iawn rydym yn cael pobl sy'n argyhoeddedig bod defnyddio cyfraith hynafiaethol yn golygu nad oes rhaid iddyn nhw dalu’r dreth gyngor ac mae llawer o erthyglau a thempledi camarweiniol ar y we ynghylch cyfreithlondeb y dreth gyngor. Dylai unrhyw un sy'n dibynnu ar y rhain am gyngor fod yn ofalus a cheisio cyngor cyfreithiol priodol cyn eu defnyddio fel amddiffyniad yn erbyn atebolrwydd treth gyngor yn seiliedig ar gontract, cydsyniad a chyfraith gyffredin.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch codi’r dreth gyngor, gofynnwch am gyngor cyfreithiol priodol, yn hytrach na dibynnu ar ffynonellau rhyngrwyd neu ddatganiadau fforwm a allai fod yn anghywir neu'n gamarweiniol.

Er ein bod yn gwneud ein gorau i ateb pob ymholiad perthnasol am y dreth gyngor, rydym yn cadw'r hawl i wrthod ymateb i ymholiadau annilys hir sy'n canolbwyntio ar ddadleuon damcaniaethol nad oes ganddynt sail mewn statud sy'n defnyddio ein hadnoddau ar draul trethdalwyr eraill. Mae hyn yn cynnwys llythyrau a hysbysiadau a gyflwynir i brif weithredwr y cyngor gyda'r un rhesymu camarweiniol.

Cwestiynau neu geisiadau cyffredin am gyfreithlondeb Treth y Cyngor

Dyma'r cwestiynau neu'r ceisiadau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am gyfreithlondeb Treth y Cyngor:

Mae rhai preswylwyr yn ystyried bod Treth y Cyngor yn gontract a bod angen contract cyfreithiol a llofnodion sy'n dangos cytundeb ar ei chyfer. Fel yr eglurwyd eisoes, mae Treth y Cyngor yn greadur statud, ac nid oes angen contract. Felly, mae unrhyw gyfeiriad at y Ddeddf Cwmnïau, y Ddeddf Contractau, y Ddeddf Biliau Cyfnewid neu ddeddfau eraill ynghylch cwmnïau neu gontractau yn amherthnasol.

Amrywiad ar y cwestiwn hwn yw ' Darparwch dystiolaeth fy mod wedi cytuno â chi y gallwch gasglu dyled honedig gennyf yn gyfreithlon.' Eto, mae hyn yn amherthnasol gan na chyfnewidiwyd contractau neu gytundeb. Nid yw'r naill na'r llall yn ofynnol ar gyfer codi ac adennill Treth y Cyngor.

Caiff hierarchaeth y sawl a ystyrir yn barti cyfrifol ei chynnwys yn Adran 6 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Nid yw cytundeb unigol ynghylch hyn yn angenrheidiol.

Mae p'un a ydyw enw'n gyfreithiol neu'n ffuglennol yn amherthnasol at ddibenion Treth y Cyngor. Codir Treth y Cyngor ac mae'n daladwy gan bwy bynnag yw'r parti cyfrifol. Pennir hyn drwy gyfeirio at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992.

Mae rhoi Hysbysiad Galw am Dalu Treth y Cyngor (y bil) yn creu'r ddyled. Nid yw llofnod neu gytundeb gan breswylydd yn angenrheidiol ar gyfer Treth y Cyngor - treth ydyw, nid contract.

Fel y crybwyllwyd uchod, nid yw llofnod yn angenrheidiol ar gyfer anfon biliau Treth y Cyngor ac nid yw llofnod inc gwlyb yn orfodol ychwaith ar wŷs gan lys. Mae cyfraith achos flaenorol wedi egluro bod defnyddio stamp rwber neu lofnod electronig i'll dau'n ddilys at ddiben llys yn llofnodi gwŷs.

Nid yw bod yn Rhyddfreiniwr ar y Tir yn golygu y gall rhywun ddewis pa gyfreithiau i lynu wrthynt a pha rai i'w hanwybyddu.

Dylid nodi yr ystyrir bod Treth y Cyngor y tu allan i gwmpas TAW ac ni allwn ddarparu anfoneb TAW.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn awdurdod lleol yn y sector cyhoeddus ac nid oes ganddo rif cwmni.

Rydym yn dilyn deddfwriaeth yn ôl Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a  Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992.

Os oes gennych anghydfod ynghylch rhoi Gorchymyn Dyled yn eich erbyn, yna mae angen i chi godi'r mater â'r Llys Ynadon. Bydd angen i chi egluro paham rydych yn teimlo nad yw Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi dilyn y weithdrefn gywir a gwneud cais i'ch gorchymyn dyled gael ei ddiddymu.

O dan Reoliad 8 Deddf Diogelu Data 2018, nid oes angen eich caniatâd arnom i brosesu data sy'n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wneir er budd y cyhoedd neu i arfer swyddogaeth swyddogol y rheolwr  rwy ddeddf neu reolaeth cyfraith.

Cyhoeddir yr wŷs gan y Llys Ynadon pan gaiff y cais (y gŵyn) ei gymeradwyo a'i gefnogi gan Ymgynghorydd Cyfreithiol y llys a hysbysir y cyngor o'r canlyniad.

Yna gall yr achwynydd argraffu'r wŷs, a dyma'r arfer arferol mewn perthynas â phob gwŷs. Cyfrifoldeb y person sy'n gwneud cais am wŷs yw ei chyflwyno i'r ymatebydd ac mae Rheol 99 Rheolau Llysoedd Ynadon 1981 yn disgrifio sut y gellir gwneud hyn, sy'n cynnwys drwy'r post.

Nid oes cytundeb rhwng y llysoedd ac awdurdodau lleol i wneud hyn, gan fod gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd gyfreithiol i'w wneud. Felly, cyhoeddir yr wŷs gan y llys, ond caiff ei hargraffu ar ei ran a'i phostio gan yr Awdurdod Lleol.

Mae rhoi Gorchymyn Dyled yn broses gyfreithiol ac nid yw'n ddogfen go iawn, ac fel y cyfryw, ni ellir darparu tystiolaeth ohono ar ffurf dogfen. Rydym yn cynhyrchu Hysbysiadau o Orchmynion Dyled i hysbysu'r dyledwr, ond nid yw hyn yn ofyniad cyfreithiol.