Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Roi gwybod i ni am newid

Preswylwyr - roi gwybod i ni os ydych yn symud tŷ

Os ydych yn symud tŷ, llenwch y ffurflen ar-lein drwy glicio ar y ddolen isod er mwyn i ni ganslo eich hen gyfrif i wneud yn siŵr nad ydych yn talu gormod.

Os ydych yn symud i gyfeiriad yn Nghastell-nedd Port Talbot, gallwn wneud yn siŵr bod eich cyfrif yn cael ei drosglwyddo i'ch cyfeiriad newydd yn brydlon.

Landlordiaid/Asiantau - Rhowch Wybod Newid Tenantiaeth

Mae angen arnom i landlordiaid:

  • roi gwybod i ni am bob newid tenantiaeth pan fyddant yn digwydd a rhoi union ddyddiadau dechrau a gorffen tenantiaethau
  •  rhoi enwau llawn pob tenant, a'i gyfeiriad blaenorol a'i gyfeiriadau newydd
  • darparu rhifau ffôn cyswllt ar eich cyfer chi a'ch tenantiaid er mwyn i ni allu gofyn cwestiynau
  • rhoi gwybod i ni os yw'r eiddo wedi'i rentu gyda dodrefn neu heb ddodrefn
  • bod yn ymwybodol y gallwn eich dirwyo os nad ydych yn cyflwyno'r wybodaeth o fewn 21 diwrnod o'r cais
  • gallwn ofyn i chi am gopi o'r cytundeb tenantiaeth os oes angen

Rhoi gwybod am farwolaeth

Rydym yn deall ei bod yn adeg anodd pan fydd rhywun yn marw. Mae'r adran hon wedi'i chynllunio i geisio gwneud pethau ychydig yn haws.

Cysylltwch â ni cyn gynted ā phosibl fel y gallwn sicrhau bod cyfrif Treth y Cyngor yn cael ei ganslo.

Yr hyn y mae angen i ni ei wybod

Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni, a allwch chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol

  • enw a chyfeiriad y person sydd wedi marw;
  • y dyddiad y bu farw ef neu hi;
  • os oes unrhyw un (ee priod) yn dal i fyw yn yr eiddo gan y bydd ganddynt hawl i ostyngiad person sengl o 25%;
  • os yw'r person sydd wedi marw yn byw ar ei ben ei hun, p'un a oeddent yn berchennog neu'n denant yr eiddo (pe baent yn denant, mae angen i ni hefyd wybod enw'r lletywr).