Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Premiymau ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi

Bydd eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi yng Nghastell-nedd Port Talbot yn denu 100% premiwm Treth y Cyngor o 1 Ebrill 2025. Bydd rhaid talu treth ychwanegol ar ben Treth y Cyngor arferoll.

Mae bwriad i'r disgresiwn codi premiwm sydd wedi'i roi i Gynghorau gael ei ddefnyddio yn adnodd i helpu'r Cyngor ynglŷn â'r canlynol:

  • gwella cartrefi sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir fel eu bod nhw'n addas i'w defnyddio eto er mwyn darparu cartrefi diogel, sefydlog a fforddiadwy
  • cefnogi Cynghorau i gynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol

Gwag tymor hir

Eiddo gwag tymor hir yw annedd sydd heb unrhyw un yn byw ynddo ac sydd wedi bod heb ddodrefn ers cyfnod parhaus o flwyddyn neu ragor.

Os yw unigolyn yn symud i mewn i'r eiddo neu'n rhoi dodrefn ynddo am un cyfnod neu ragor hyd at 6 wythnos yn ystod y flwyddyn, fydd hyn ddim yn effeithio ar statws yr eiddo gwag hir dymor. Hynny yw, fydd unigolyn ddim yn newid statws yr eiddo ('gwag hir dymor') drwy symud i mewn iddo neu roi dodrefn ynddo am gyfnod byr.

Ail gartrefi

Diffinnir ail gartref fel annedd nad yw'n unig neu'n brif gartref i rywun, sydd wedi'i ddodrefnu'n sylweddol. Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn cyfeirio atyn nhw fel anheddau sy'n cael eu meddiannu o bryd i'w gilydd, ond fel arfer, maen nhw'n cael eu galw'n 'ail gartrefi'.

Eithriadau

Isod mae rhestr o eithriadau i'r premiwm a allai fod yn berthnasol i chi:

Eiddo gwag ac ail gartrefi

  • Dosbarth 1 - anheddau sydd ar y farchnad i gael eu gwerthu neu sydd â chynnig wedi'i dderbyn. Mae'r eithriad yma wedi'i gyfyngu i 1 flwyddyn, rhagor o fanylion isod
  • Dosbarth 2 - anheddau sydd ar y farchnad i gael eu rhentu neu sydd â chynnig i rentu sydd wedi cael ei dderbyn. Mae'r eithriad yma wedi'i gyfyngu i 1 flwyddyn, rhagor o fanylion isod
  • Dosbarth 3 – rhandai sy'n ffurfio rhan, neu'n cael eu trin fel rhan, o'r brif annedd
  • Dosbarth 4 – anheddau a fyddai'n unig gartref neu'n brif gartref person pe na bai ef/hi yn byw mewn llety sy'n cael ei ddarparu gan y lluoedd arfog

Eithriad lleol A

Lle nad oes gan eiddo gwag fynedfa ar wahân a dim ond trwy safle busnes presennol y gellir mynd iddo ac nad yw'n bosibl creu mynedfa ar wahân, er enghraifft, trwy rwystro neu ddadflocio drws.

Bydd yr eithriad yn cael ei ganiatáu bob blwyddyn a bydd yn cael ei adolygu a'i archwilio o bryd i'w gilydd.

Eithriad lleol B

Pan fydd premiwm yn daladwy ar eiddo gwag hirdymor sy'n cael ei werthu, ni chodir premiwm ar y perchennog newydd am hyd at chwe mis tra bod gwaith adeiladu mawr yn cael ei wneud gyda'r bwriad o ailddefnyddio'r eiddo.

Bydd yr eithriad hwn ond yn cael ei ddyfarnu yn dilyn arolygiad ac amserlen fanwl o waith yn cael ei darparu.

I fod yn gymwys:

  • rhaid i'r gwaith sy'n cael ei wneud fod yn strwythurol ac yn sylweddol, ni fydd yr eithriad hwn yn berthnasol i fân waith, er enghraifft gosod ffenestri newydd neu adnewyddu ystafell ymolchi neu gegin
  • efallai y bydd gan y perchennog hawl i hawlio eithriad dosbarth A os nad yw hyn eisoes wedi'i ddyfarnu i berchennog blaenorol. Os bydd eithriad dosbarth A yn berthnasol, bydd y perchennog yn derbyn yr eithriad hwn dim ond mewn achosion lle gellir dyfarnu eithriad llai na chwe mis, bydd y perchennog yn derbyn eithriad sy'n cyfateb i ddim premiwm yn cael ei godi am chwe mis
  • bydd eithriad B yn dod i ben pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau, pan fydd yr eiddo yn cael ei feddiannu neu pan gyrhaeddir y terfyn amser fel y nodir uchod

Ail gartrefi yn unig

  • Dosbarth 5 – safleoedd carafanau ac angorfeydd cychod sydd wedi eu meddiannu
  • Dosbarth 6 - anheddau sy'n wag oherwydd bod amod cynllunio yn atal pobl rhag eu meddiannu'n barhaol neu gydol y flwyddyn, neu'n nodi bod yr eiddo i'w ddefnyddio yn llety gwyliau yn unig neu'n atal yr annedd rhag cael ei ddefnyddio yn brif breswylfa
  • Dosbarth 7 - anheddau sy'n ymwneud â swyddi - gweler rhagor o fanylion isod

Dosbarth 1: anheddau sydd ar werth

Mae'r eithriad yma'n berthnasol i'r premiwm ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi. Mae'r eithriad yma'n berthnasol i anheddau sy'n cael eu marchnata i'w gwerthu. Mae hefyd yn berthnasol i anheddau sydd â chynnig wedi'i dderbyn ond lle nad yw'r gwerthiant wedi'i gwblhau hyd yn hyn.

I fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad yma rhaid i eiddo fod ar werth am bris rhesymol. Bydd raid i'r perchennog atebol y gallu i ddangos i'r Awdurdod Lleol yn foddhaol ei fod yn marchnata'r eiddo am bris rhesymol sef pris y byddai disgwyl iddo werthu amdano ar y farchnad agored.

Wrth ystyried a yw eiddo yn gymwys i fod yn eithriad, mae'n bosibl y bydd Cyngor yn dymuno ystyried ystod o ffactorau sy'n ymwneud â gwerthu eiddo, megis

  • ers pryd mae eiddo yn yr ardal wedi bod ar werth
  • pris cyfartalog a'r hyd mae anheddau tebyg ar y farchnad yn yr ardal leol
  • a oes amodau cyfyngol gormodol, megis y pris, wedi'u gosod ar yr eiddo er mwyn atal ei werthu
  • unrhyw ffactorau rhesymol eraill

I benderfynu a yw eiddo ar y farchnad i gael ei werthu neu beidio, efallai y bydd Cyngor yn dymuno ystyried y mathau amrywiol o dystiolaeth a allai gynnwys y canlynol:

  • eiddo yn cael ei restru ar wefannau hysbysebu, er enghraifft gwefannau gwerthwyr tai megis Rightmove a Zoopla, neu dystiolaeth o ffyrdd eraill mae'r eiddo yn cael ei farchnata
  • cytundeb gyda gwerthwr tai
  • rhestrau gwerthwyr/asiantau tai neu fanylion gwerthiant os yw'n cael ei werthu'n breifat
  • Tystysgrif Perfformiad Ynni (pan gaiff eiddo ei adeiladu neu ei werthu)

Dosbarth 2: anheddau sydd ar y farchnad i gael eu rhentu

Mae'r eithriad yma'n berthnasol i'r premiwm ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi. Dydy hyn ddim yn cynnwys anheddau sy'n cael eu marchnata i gael eu rhentu. Mae'n berthnasol i anheddau sydd â chynnig i rentu wedi'i dderbyn ond dydy'r tenant ddim yn gymwys i fyw yno gan nad yw'r denantiaeth wedi dechrau.

I fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad yma, rhaid i berchennog atebol brofi i'r Cyngor ei fod yn marchnata'r eiddo am bris rhesymol e.e. y rhent y byddai disgwyl i rywun ei dalu am yr eiddo yn seiliedig ar gost eiddo tebyg.

Wrth ystyried a yw eithriad yn berthnasol, efallai y bydd Cyngor yn dymuno ystyried ystod o ffactorau sy'n ymwneud â rhoi eiddo ar osod, megis y canlynol:

  • ers pryd mae eiddo yn yr ardal wedi bod ar werth
  • rhent cyfartalog ac amser ar y farchnad ar gyfer eiddo tebyg yn yr ardal leol
  • a oes amodau cyfyngol gormodol megis y rhent yn atal yr eiddo rhag cael ei rentu
  • unrhyw ffactorau rhesymol eraill

Er mwyn i Gyngor benderfynu a yw perchennog atebol yn marchnata'r eiddo, mae'n bosibl y bydd Awdurdod Lleol yn dymuno ystyried mathau amrywiol o dystiolaeth a allai gynnwys y canlynol:

  • cytundeb gyda gwerthwr tai
  • rhestrau neu daflen wybodaeth gwerthwyr tai
  • rhif cofrestru a thrwydded landlord ac asiant ar gyfer eiddo sy'n cael ei farchnata i'w rentu drwy Rhentu Doeth Cymru
  • rhestrau tai o eiddo sy'n cael eu cynnig i'w rhentu gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
  • Tystysgrif Perfformiad Ynni (pan gaiff eiddo ei adeiladu neu ei rentu)
  • Tystysgrif diogelwch nwy dilys ar gyfer eiddo sy'n cael eu rhentu

Mae'r cyfnod eithrio yn para hyd at flwyddyn o ddyddiad yr eithriad. Ar ôl i'r cyfnod eithrio ddod i ben, fydd eiddo sy'n cael ei farchnata i'w rentu ddim yn gymwys i gael cyfnod eithrio arall heblaw ei fod yn destun tenantiaeth o 6 mis neu ragor.

Dosbarth 7 – Eiddo sy'n gysylltiedig â swyddi

Mae'r eithriad yma'n berthnasol i'r premiwm ail gartrefi ac eiddo sy'n cael eu meddiannu gan berson cymwys. Mae'r meini prawf ar gyfer person cymwys wedi'i nodi o dan Rhan 1, Dosbarth 7.

Wrth ystyried cymhwysedd ar gyfer yr eithriad yma, efallai y bydd Cyngor yn dymuno gwneud cais am fmathau penodol o dystiolaeth i brofi bod angen person atebol mewn eiddo sy'n gysylltiedig â swyddi. Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • Cytundeb Cyflogaeth
  • Hysbysiad Galw am Dalu Treth y Cyngor (i ddangos atebolrwydd mewn perthynas ag eiddo arall os yw'r prif neu'r ail gartref yn y DU)
  • Ffurflenni treth neu ddatganiadau tâl
  • Llythyr Enwadol (mewn perthynas â Gweinidog Crefydd)
  • Llythyr neu gytundeb ysgrifenedig gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn (mewn perthynas â'r Lluoedd Arfog)

Eiddo'n gymwys am eithriad

O 1 Ebrill 2025, byddwch chi'n destun premiwm 100% ar Dreth y Cyngor os yw eich eiddo wedi bod yn wag ers 12 mis neu fwy.

Byddwn ni ysgrifennu i perchennog ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi ym mis Tachwedd 2024 i weld os eithriad sy'n berthnasol Wrth baratoi ar gyfer bil Treth y Cyngor 2025.

Canllawiau Llywodraeth Cymru

Treth Gyngor ar dai gwag ac ail gartrefi