Cyflogadwyedd CNPT
Hoffech chi fynychu cyrsiau hyfforddi i ddysgu sgiliau newydd neu wella'r sgiliau sydd gennych? Efallai y gallwn ni helpu os ydych chi'n:
- ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot
- ydych chi eisiau mynd ar gyrsiau hyfforddiant i ddysgu sgiliau newydd neu wella'r sgiliau sydd gennych
- ydych chi'n ddi-waith ac yn bwriadu dychwelyd i'r gwaith
Ydych chi mewn cyflogaeth ond yn gweithio rhan amser neu ar gyflog isel ac am wella'ch sefyllfa.
Efallai y bydd angen help arnoch chi
Mae Cyflogadwyedd CNPT yma i'ch helpu gydag unrhyw faterion y gall fod angen help arnoch ar eu cyfer, megis:
- lunio C.V.
- hyfforddiant
- technegau cyfweliad
- magu hyder
- chwilio am swyddi ar-lein a llenwi ffurflenni cais
- cyflogadwyedd
- cyngor ar fudd-daliadau
Costau gofal plant
Os oes angen i chi fynd ar gwrs hyfforddiant, i gyfweliad neu ar leoliad ac mae angen cymorth arnoch i dalu costau gofal plant;
Costau Teithio
Gallwn helpu gyda chostau teithio er mwyn i chi fynd ar gyrsiau hyfforddiant, i gyfweliadau neu ar leoliadau
Costau dillad
Er mwyn gwneud i chi deimlo'n ddigon trwsiadus a hyderus i fynd i gyfweliadau, lleoliadau ac i ddechrau swydd, gallwn helpu gyda chostau prynu rhywbeth taclus i'w wisgo
Cyfarpar Amddiffyn Personol
Os oes angen eitemau megis esgidiau diogelwch neu ddillad dwrglos arnoch i fynd ar gwrs neu leoliad, gallwn dalu am y rhain.
Cyrsiau hyfforddiant
- Trwydded Awdurdod y Diwydiant Diogeledd (SIA)
- Cerdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu
- PTS (Diogelwch Trac Personol) ar gyfer rheilffyrdd
- Peiriannau ac offer bach
- Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
- Hyfforddiant LGV â thrwydded
- Diogelu plant a phobl ifanc
- Cymorth Cyntaf Pediatrig
- Diogelwch bwyd
Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym
Cefnogaeth wyneb yn wyneb, gyfeillgar i'ch helpu i gyrraedd eich nodau cyflogaeth.
Rydym yn dîm o staff cyfeillgar a phrofiadol, sy'n ymroddedig i'ch helpu chi i wella eich cyfleoedd cyflogaeth. Mae gennym gysylltiadau helaeth â chyflogwyr lleol yn ardal Castell-nedd Port Talbot ac rydym yn ymroddedig i sicrhau eich bod yn derbyn yr holl gymorth sydd ei angen gennym er mwyn i chi gael cyflogaeth addas ac/neu wella eich rhagolygon. Nid yw'r gwasanaeth hwn yn hanfodol ond mae croeso i chi ddod i'n gweld ni er mwyn manteisio ar yr holl gyfleoedd y gallwn eu cynnig i chi.
Cymerwch gip ar ein fideos o'n hastudiaethau achos yma.
Ydych chi'n gymwys i dderbyn cefnogaeth
Cysylltwch â ni i ddarganfod sut gallwn eich helpu.
Os ydych chi'n byw yn ardal Castell-nedd Port Talbot, yn chwilio am gymorth gydag unrhyw un o'r uchod ac eisiau derbyn mwy o wybodaeth neu os ydych chi'n meddwl y gallwn eich helpu, cysylltwch â'r tîm.