Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cwrdd â'r tîm

Mae ein tîm yn cynnwys unigolion ymroddedig a phrofiadol sy'n gwneud eu gorau glas i'ch helpu i gael cyflogaeth gynaliadwy sy'n iawn i chi.

Drwy ddarparu cefnogaeth a mentora ymgynghorol arbenigol ar gyfer cyflogaeth, boed hynny er mwyn magu'ch hyder, ennill profiad gwaith, dysgu sgiliau newydd, ailysgrifennu'ch CV neu ymgeisio am swyddi, bydd staff Cyflogadwyedd CNPT yn eich helpu i chwalu unrhyw rwystrau sy'n ei gwneud hi'n anodd i chi gael gwaith - gallai hyn fod yn unrhyw beth o ofal plant i anghenion hyfforddiant, diffyg cludiant, diffyg hyder a dillad ar gyfer cyfweliadau.

Mae'r holl gefnogaeth a ddarperir wedi'i theilwra i anghenion unigol ac yn cael ei chynnig mewn lleoliad 1:1. Dewch i gwrdd â'n tîm rhagorol:

Cyflogadwyedd CNPT Cyflogadwyedd CNPT
Cyflogadwyedd CNPT
(01639) 860160 (01639) 860160 voice +441639860160
07976 589 811 07976 589 811 voice +447976589811
Workways+
(01639) 684250 (01639) 684250 voice +441639684250