Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cymunedau ar gyfer digwyddiadau gwaith

Mae Cyflogadwyedd CNPT yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cymunedol drwy gydol y flwyddyn â'r nod o gynyddu ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael gyda'n prosiectau. Mae'n rhoi'r cyfle i chi siarad â ni'n bersonol i ofyn cwestiynau, cael rhagor o wybodaeth am sut gallwn eich helpu a chofrestru i dderbyn cefnogaeth.

Mae'r cyfleoedd hyn hefyd yn rhoi'r cyfle i chi siarad â rhai o'n partneriaid fel Gweithffyrdd+, PaCE, Cam Nesa, Canolfan Byd Gwaith, Dysgu Oedolion yn y Gymuned a CGGCNPT, yn ogystal â chyflogwyr lleol sydd am recriwtio.

Mae rhai o'n digwyddiadau'n cynnwys y canlynol: ffeiriau swyddi, diwrnodau hwyl, stondinau gwybodaeth dros dro, clinigau gwybodaeth a chlybiau swyddi i enwi rhai yn unig. Rydym hefyd yn mynd i ganolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau lleol bob wythnos.

Ewch i dudalen digwyddiadau CNPT yma neu ewch i'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael y diweddaraf am ddigwyddiadau.