Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cyflogadwyedd CNPT

NPT Empoyability logo

Hoffech chi fynychu cyrsiau hyfforddi i ddysgu sgiliau newydd neu wella'r sgiliau sydd gennych? Efallai y gallwn ni helpu os ydych chi'n:

  • ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot
  • ydych chi eisiau mynd ar gyrsiau hyfforddiant i ddysgu sgiliau newydd neu wella'r sgiliau sydd gennych
  • ydych chi'n ddi-waith ac yn bwriadu dychwelyd i'r gwaith

Ydych chi mewn cyflogaeth ond yn gweithio rhan amser neu ar gyflog isel ac am wella'ch sefyllfa.

Efallai y bydd angen help arnoch chi

Mae Cyflogadwyedd CNPT yma i'ch helpu gydag unrhyw faterion y gall fod angen help arnoch ar eu cyfer, megis:

  • lunio C.V.
  • hyfforddiant 
  • technegau cyfweliad
  • magu hyder
  • chwilio am swyddi ar-lein a llenwi ffurflenni cais
  • cyflogadwyedd
  • cyngor ar fudd-daliadau

Costau gofal plant

Os oes angen i chi fynd ar gwrs hyfforddiant, i gyfweliad neu ar leoliad ac mae angen cymorth arnoch i dalu costau gofal plant;

Costau Teithio

Gallwn helpu gyda chostau teithio er mwyn i chi fynd ar gyrsiau hyfforddiant, i gyfweliadau neu ar leoliadau

Costau dillad

Er mwyn gwneud i chi deimlo'n ddigon trwsiadus a hyderus i fynd i gyfweliadau, lleoliadau ac i ddechrau swydd, gallwn helpu gyda chostau prynu rhywbeth taclus i'w wisgo

Cyfarpar Amddiffyn Personol

Os oes angen eitemau megis esgidiau diogelwch neu ddillad dwrglos arnoch i fynd ar gwrs neu leoliad, gallwn dalu am y rhain.

Cyrsiau hyfforddiant

  • Trwydded Awdurdod y Diwydiant Diogeledd (SIA)
  • Cerdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu
  • PTS (Diogelwch Trac Personol) ar gyfer rheilffyrdd
  • Peiriannau ac offer bach
  • Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
  • Hyfforddiant LGV â thrwydded
  • Diogelu plant a phobl ifanc
  • Cymorth Cyntaf Pediatrig
  • Diogelwch bwyd

Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym

Cefnogaeth wyneb yn wyneb, gyfeillgar i'ch helpu i gyrraedd eich nodau cyflogaeth.

Rydym yn dîm o staff cyfeillgar a phrofiadol, sy'n ymroddedig i'ch helpu chi i wella eich cyfleoedd cyflogaeth. Mae gennym gysylltiadau helaeth â chyflogwyr lleol yn ardal Castell-nedd Port Talbot ac rydym yn ymroddedig i sicrhau eich bod yn derbyn yr holl gymorth sydd ei angen gennym er mwyn i chi gael cyflogaeth addas ac/neu wella eich rhagolygon. Nid yw'r gwasanaeth hwn yn hanfodol ond mae croeso i chi ddod i'n gweld ni er mwyn manteisio ar yr holl gyfleoedd y gallwn eu cynnig i chi.

Cymerwch gip ar ein fideos o'n hastudiaethau achos yma.

Ydych chi'n gymwys i dderbyn cefnogaeth

Cysylltwch â ni i ddarganfod sut gallwn eich helpu.

Os ydych chi'n byw yn ardal Castell-nedd Port Talbot, yn chwilio am gymorth gydag unrhyw un o'r uchod ac eisiau derbyn mwy o wybodaeth neu os ydych chi'n meddwl y gallwn eich helpu, cysylltwch â'r tîm.