Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwybodaeth i drigolion newydd

Os ydych chi'n newydd i'r ardal, dyma rai pethau allweddol y bydd angen i chi eu gwneud a gwybodaeth y gallech fod eisiau ei gwybod.

Treth y Cyngor

Rhowch wybod i ni eich bod wedi symud i'r ardal drwy  lenwi ein ffurflen.

Gallwch hefyd:

Biniau ac ailgylchu

Casgliadau biniau ac ailgylchu

Gwiriwch pryd rydym yn casglu eich biniau ac ailgylchu.

Mae casgliadau ailgylchu bob wythnos. Mae casgliadau sbwriel bob pythefnos.

Rydym hefyd yn casglu gwastraff gardd bob pythefnos. Nid oes tâl am gasglu ond bydd angen i chi brynu sachau gwastraff gardd.

Offer ailgylchu

Dysgwch sut i ddidoli eich ailgylchu gyda'n canllaw ailgylchu.

Gallwch archebu offer ailgylchu ar-lein. Mae'r rhan fwyaf o'r offer am ddim ond codir tâl am sachau gwastraff gardd

Canolfannau ailgylchu

Dod o hyd i ganolfan ailgylchu a threfnu amser i ymweld.

Etholiadau a phleidleisio

Rhaid i chi gofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd.

I gofrestru bydd angen eich:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Dyddiad Geni
  • manylion cyfeiriad llawn

Ysgolion

Derbyniadau ysgol a dyddiadau tymhorau

Darganfod pa ysgolion sydd yn eich ardal a gwneud cais am le. Neu gweler dyddiadau tymhorau ysgol.

Cinio ysgol

Gweler bwydlenni cinio ysgolion cynradd. Gallwch hefyd weld pa ysgolion sydd â chlybiau brecwast.

Cyrraedd yr ysgol

Darganfyddwch a yw'ch plentyn yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim a gwelwch amserlenni bysiau ysgol.

Cynghorwyr

Darganfyddwch pwy yw eich cynghorwyr. Gallwch hefyd weld a oes cyngor tref neu gymuned yn eich ardal.

Pethau i'w gweld a'u gwneud

Canol ein trefi

Mae canol ein trefi yn llawn o bethau i’w gwneud ac mae ganddyn nhw rywbeth i bawb. Ymweld:

Llyfrgelloedd

Dewch o hyd i'ch llyfrgell leol a dewch yn aelod.

Theatrau

Dewch i weld beth sydd ymlaen yn Theatr y Dywysoges Frenhinol, Canolfan Celfyddydau Pontardawe neu Neuadd Gwyn.

Parciau a thraethau

Dewch i weld beth sydd gan ein parciau hardd a'n traethaui’w gynnig.

Canolfannau hamdden

Mae chwe chanolfan hamdden yn yr ardal. Mae gan bob canolfan oriau agor ac amserlenni unigol. Gallwch dalu fesul sesiwn neu ddewis o ddetholiad o becynnau aelodaeth.

Cadwch mewn cysylltiad

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol: