Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ymunwch â llyfrgell

Gallwch wneud cais am gerdyn llyfrgell os ydych:

  • yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot
  • gweithio yng Nghastell-nedd Port Talbot neu ymweld â Chastell-nedd Port Talbot, ond ddim yn byw yma

Dod yn aelod

Mae ymuno ar-lein yn eich galluogi i:

  • benthyca llyfrau, cerddoriaeth, DVDs a theitlau llafar o'n llyfrgelloedd i gyd
  • adnewyddu, cadw a chasglu o unrhyw lyfrgell yng Nghastell-nedd Port Talbot
  • lawrlwytho eLyfrau, e-gylchgronau, eLyfrau llafar ac eBapurau Newydd am ddim
  • Defnyddio cyfrifiaduron llyfrgell a Wi-Fi
  • Diweddaru eich cyfrif llyfrgell

Gallwch fenthyg llyfrau ac e-lyfrau, a defnyddio'r cyfrifiaduron am ddim. Rydym yn codi tâl am wasanaethau eraill fel benthyca CDs a DVDs.

I gasglu neu amnewid eich cerdyn, bydd angen i chi ymweld ag un o'n llyfrgelloedd gyda phrawf cyfeiriad.

Os ydych o dan 16 oed, bydd angen i'ch rhiant neu ofalwr ddangos un math o brawf adnabod a llofnodi'r cais.

Gallwch gael mynediad i'ch cyfrif unrhyw bryd gan ddefnyddio rhif eich llyfrgell a'ch rhif PIN.