Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Rheolau Cyfryngau Cymdeithasol

Mae ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth o'n gwasanaethau a'n partneriaid, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy'n digwydd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Rydym yma i'ch helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn, ond rydym yn disgwyl i ddefnyddwyr gynnig yr un lefel o gwrteisi i ni â'r hyn rydym yn ei gynnig iddyn nhw. Rydym am i'n sianeli cyfryngau cymdeithasol fod yn fannau diogel ac yn lle i gynnal trafodaethau iach, agored a chraff, ac felly mae gennym gyfres fer o reolau:

  • Mae'n rhaid i bob defnyddiwr gydymffurfio â thelerau defnydd y llwyfan cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â thelerau defnydd ein hun sydd wedi'u nodi yma.
  • Chi sy'n gwbl gyfrifol am unrhyw gynnwys rydych yn ei bostio gan gynnwys cynnwys rydych yn dewis ei rannu.
  • Byddwn yn cael gwared ar negeseuon a/neu ddiffodd sylwadau (lle caniateir hynny) a/neu rwystro defnyddwyr ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol sy'n rhannu negeseuon yr ystyrir yn rhesymol eu bod yn bodloni'r disgrifiadau isod:
    • Ddifrïol neu'n anweddus
    • Twyllodrus neu'n gamarweiniol
    • Difenwol (enllibus neu athrodus)
    • Anaddas, neu'n wahaniaethol yn erbyn unrhyw unigolyn neu grŵp
    • Torri unrhyw hawliau eiddo deallusol, gan gynnwys hawlfraint
    • Torri unrhyw ddeddf neu reoliad
    • Sbam a chynnwys sy'n newid y pwnc (negeseuon negyddol a/neu ddifrïol parhaus sydd â'r bwriad o beri ymateb)
      o Deunydd hyrwyddol, gan gynnwys dolenni i wefannau a hyrwyddiadau allanol

Byddwn yn hysbysu'r llwyfan cyfryngau cymdeithasol cysylltiedig am unrhyw un sy'n ymgysylltu â ni tro ar ôl tro gan ddefnyddio cynnwys neu iaith sy'n cael eu cwmpasu yn y categorïau uchod. Ni fyddwn yn goddef negeseuon difrïol neu'n ymateb iddynt.

Mae'n rhaid i ni aros yn wleidyddol niwtral bob amser ar y cyfryngau cymdeithasol, sy'n golygu nad yw swyddogion y cyngor yn gallu ymateb, cefnogi neu ymgysylltu ag unrhyw gynnwys sydd â chynnwys gwleidyddol (e.e. barn a nodau gwleidyddol unrhyw barti gwleidyddol a/neu unrhyw berson neu sefydliadau sy'n hyrwyddo unrhyw farn neu nodau gwleidyddol).

Os hoffech drafod materion gwleidyddol, cysylltwch â'ch cynghorydd lleol, ceir manylion yma.

Sut rydym yn rheoli ein cyfrifon

Rydym yn monitro'n cyfrifon 8.30am - 5pm, ddydd Llun i ddydd Iau, 8.30am - 4.30pm, ddydd Gwener (nid yw hyn yn cynnwys gwyliau cyhoeddus).

Byddwn yn ceisio ateb eich cwestiynau, ond gan ein bod ni'n derbyn gymaint o negeseuon, efallai na fyddwn yn gallu ymateb i bob ymholiad.
Byddwn yn ailgyfeirio cwestiynau na allwn eu hateb drwy'r cyfryngau cymdeithasol lle bo'n briodol.

Rydym yn gwneud ein gorau glas i roi'r wybodaeth gywir i chi. Os byddwn yn gwneud camgymeriad, byddwn yn ceisio cywiro'r sefyllfa a darparu'r wybodaeth gywir yn gyflym.

Rhowch wybod i ni os ydych chi'n meddwl ein bod ni wedi gwneud camgymeriad, neu os ydych chi'n gweld unrhyw beth rydych chi'n ystyried ei fod yn anaddas neu sy'n peri pryder i chi.

Mae gennym yr hawl i ddileu ein cyfrifon a diweddaru neu newid y rheolau hyn ar unrhyw adeg.