Trwyddedau personol
Mae trwydded bersonol yn caniatáu unigolyn i awdurdodi gwerthu neu gyflenwi alcohol. Mae angen o leiaf un deiliad trwydded bersonol ar fangreoedd sy'n gweini alcohol (ac eithrio mangreoedd a chanddynt Dystysgrif Mangre Clwb). Caiff un ohonynt ei enwi ar y Drwydded Mangre fel Goruchwyliwr Mangre Dynodedig. Rhaid i'r holl alcohol a gaiff ei werthu dan y Drwydded Mangre gael ei awdurdodi gan y Goruchwyliwr Mangre Dynodedig, neu gan berson arall sy'n dal Trwydded Bersonol.
Mae'r Trwydded Bersonol ar wahân i'r Drwydded Mangre sy'n awdurdodi'r fangre i'w defnyddio i gyflenwi alcohol. Mantais hyn yw ei bod yn caniatáu ar gyfer symud deiliaid Trwyddedau Personol o un fangre i'r llall, gan ganiatáu mwy o hyblygrwydd.
Mae mwy o wybodaeth ac arweiniad ar sut i wneud cais ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref.