Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Hysbysiadau dros dro

Os ydych am gael caniatâd i gynnal digwyddiad lle bydd angen cyflenwad tymor byr o alcohol, darpariaeth adloniant rheoledig neu ddarpariaeth lluniaeth yn hwyr y nos, mae angen i chi wneud cais am Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro. Gyda'r system hon, mae trefnydd digwyddiad ("defnyddiwr y fangre") yn rhoi Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro i'r Awdurdod Trwyddedu a'i gopïo i'r Awdurdod Heddlu perthnasol.

Mae mwy o wybodaeth ac arweiniad ar sut i wneud cais ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref.