Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Adolygu trwyddedau mangre

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn amlinellu gweithdrefn y gall yr awdurdod cyfrifol neu bobl eraill ei defnyddio i wneud cais i'r Awdurdod Trwyddedu i adolygu trwydded mangre neu dystysgrif mangre clwb oherwydd mater sydd wedi codi yn y fangre sy'n gysylltiedig ag unrhyw un o'r pedwar amcan trwyddedu.

Ym mhob achos, rhaid i'r cais a gyflwynir ymwneud รข mangre benodol y mae trwydded neu dystysgrif eisoes ar waith ar ei chyfer, a rhaid ei bod yn berthnasol i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.

Lle rhoddir Trwydded Mangre neu Dystysgrif Mangre Clwb ac mae'r awdurdod cyfrifol neu berson arall o'r farn nad yw'r fangre'n cael ei gweithredu yn unol ag amodau'r drwydded neu'r dystysgrif, gallant ofyn i'r cyngor adolygu'r drwydded neu'r dystysgrif honno.

Mae mwy o wybodaeth ac arweiniad ar sut i wneud cais ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref.

Cais i Adolygu Trwydded Mangre - Glynneath Town Football Club

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn hysbysu, drwy hyn, fod cais wedi cael ei dderbyn i adolygu'r Drwydded Mangre mewn perthynas ag:

Glynneath Town Football Club

Hysbysiad llawn