Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Trwyddedu adloniant

Mae'n ofynnol i fangreoedd sy'n darparu "adloniant rheoledig" feddu ar dystysgrif mangre/mangre clwb. Cynhelir adloniant rheoledig os bydd cynulleidfa'n bresennol ar gyfer yr adloniant hwnnw, ac os caiff ei ddarparu at y diben, neu at ddibenion sy'n cynnwys difyrru'r gynulleidfa honno.

Mae adloniant rheoledig yn cynnwys:

  • perfformiad drama
  • arddangosfa ffilm
  • digwyddiad chwaraeon dan do
  • adloniant paffio neu reslo
  • perfformiad cerddoriaeth fyw
  • chwarae cerddoriaeth a recordiwyd
  • perfformiad dawns
  • unrhyw adloniant o ddisgrifiad tebyg i gerddoriaeth fyw, cerddoriaeth wedi'i recordio a pherfformiad dawns .

Mae nifer o eithriadau i'r gofyniad i feddu ar drwydded am yr adloniant uchod, a bu cryn dipyn o ddadreoleiddio. Rydym felly'n argymell eich bod yn darllen yr wybodaeth ychwanegol a'r arweiniad ar sut i wneud cais sydd ar gael ar wefan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Hamdden.

Lluniaeth yn Hwyr y Nos

Mae'n ofynnol i fangreoedd sy'n darparu "lluniaeth yn hwyr y nos" feddu ar drwydded mangre.

Lluniaeth yn hwyr y nos yw gwerthu bwyd twym neu ddiod i'r cyhoedd ei fwyta/yfed (yn y fangre neu'r tu allan iddi) rhwng 11pm a 5am.

Mae mwy o wybodaeth ac arweiniad ar sut i wneud cais ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref.