Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Hysbysiadau trwyddedu

Hysbysiad o geisiadau am eiddo newydd ac amrywiadau

Mae ceisiadau newydd am drwyddedau mangre ac amrywiadau i drwyddedau presennol o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 wedi'u rhestru isod.

Bydd yr hysbysiadau hyn yn aros yma am y cyfnod cyflwyno sylwadau o 28 niwrnod.

Rhaid cyflwyno unrhyw sylwadau'n ysgrifenedig, gan nodi'n glir ar ba sail y cyflwynir y sylw, sy'n berthnasol i'r amcanion trwyddedu.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch mewn perthynas â chais neu os ydych chi'n dymuno cyflwyno sylwadau, e-bostiwch lrs@npt.gov.uk

Dylid e-bostio sylwadau I lrs@npt.gov.uk neu eu hanfon i: Cyngor Castell-Nedd Port Talbot, Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.

Bydd eich sylw ysgrifenedig yn cael ei ddarparu i'r ymgeisydd ac mae'n bosib y caiff ei ystyried hefyd mewn gwrandawiad cyhoeddus sy'n golygu y gall unrhyw un fod yn bresennol i wrando ar y cais. Bydd swyddogion a/neu'r pwyllgor yn ystyried unrhyw ddogfennaeth neu wybodaeth arall a ddarperir gennych sy'n berthnasol i'r cais yn y gwrandawiad.