Gwybodaeth ariannol
Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth ariannol am y cyngor, gan gynnwys:
- y gyllideb ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd, sef y Gyllideb Refeniw
- y Rhaglen Gyfalaf, sef arian sy’n cael ei wario ar bethau a ddylai ddod â budd i’r cyngor am nifer o flynyddoedd (fel adeiladu ysgolion newydd neu brynu cerbydau ailgylchu newydd), a
- Datganiad Cyfrifon y cyngor.
Ym maes llywodraeth leol dydyn ni ddim yn meddwl ddwywaith am ddefnyddio’r geiriau Cyfalaf a Refeniw wrth drafod materion sy’n ymwneud â’r gyllideb yn awr ac yn y dyfodol.
Ond efallai na fydd bob amser yn eglur pam fod gan y cyngor arian i gyflawni cynllun ffyrdd mawr neu godi ysgol newydd, er ei fod yn gorfod torri’n ôl ar wasanaethau o ddydd i ddydd.
Y rheswm am hynny yw sut mae’r rhaglen gyfalaf a’r gyllideb refeniw’n cael eu hariannu, a beth mae cynghorau’n cael, neu ddim yn cael, ei wneud wrth wario’r arian.
Mewn modd tebyg i’r gyllideb refeniw, mae’r cyngor yn derbyn arian grant cyffredinol a phenodol i gynnal gwariant cyfalaf. Fodd bynnag, heblaw am hynny, mae yna rai gwahaniaethau pwysig i sut mae’n talu am wariant cyfalaf:
Un o’r rheiny yw bod cynghorau’n cael benthyg arian i dalu am wariant cyfalaf. Gallan nhw hefyd werthu asedau presennol i brynu rhai newydd, neu ailfuddsoddi’r arian i adnewyddu rhai eraill.
Ni chaniateir benthyg i dalu am wariant refeniw.
Ac mae hynny’n gwneud synnwyr mewn cyd-destun personol. Yn gyffredinol, fyddech chi ddim yn trefnu benthyciad i brynu bwyd, ond efallai byddech chi’n ystyried benthyg arian i brynu car newydd.