Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwybodaeth ariannol

Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth ariannol am y cyngor, gan gynnwys:

  • y gyllideb ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd, sef y Gyllideb Refeniw
  • y Rhaglen Gyfalaf, sef arian sy’n cael ei wario ar bethau a ddylai ddod â budd i’r cyngor am nifer o flynyddoedd (fel adeiladu ysgolion newydd neu brynu cerbydau ailgylchu newydd), a
  • Datganiad Cyfrifon y cyngor. 

Ym maes llywodraeth leol dydyn ni ddim yn meddwl ddwywaith am ddefnyddio’r geiriau Cyfalaf a Refeniw wrth drafod materion sy’n ymwneud â’r gyllideb yn awr ac yn y dyfodol.

Ond efallai na fydd bob amser yn eglur pam fod gan y cyngor arian i gyflawni cynllun ffyrdd mawr neu godi ysgol newydd, er ei fod yn gorfod torri’n ôl ar wasanaethau o ddydd i ddydd.

Y rheswm am hynny yw sut mae’r rhaglen gyfalaf a’r gyllideb refeniw’n cael eu hariannu, a beth mae cynghorau’n cael, neu ddim yn cael, ei wneud wrth wario’r arian.

Mewn modd tebyg i’r gyllideb refeniw, mae’r cyngor yn derbyn arian grant cyffredinol a phenodol i gynnal gwariant cyfalaf. Fodd bynnag, heblaw am hynny, mae yna rai gwahaniaethau pwysig i sut mae’n talu am wariant cyfalaf:

Un o’r rheiny yw bod cynghorau’n cael benthyg arian i dalu am wariant cyfalaf. Gallan nhw hefyd werthu asedau presennol i brynu rhai newydd, neu ailfuddsoddi’r arian i adnewyddu rhai eraill.

Ni chaniateir benthyg i dalu am wariant refeniw.

Ac mae hynny’n gwneud synnwyr mewn cyd-destun personol. Yn gyffredinol, fyddech chi ddim yn trefnu benthyciad i brynu bwyd, ond efallai byddech chi’n ystyried benthyg arian i brynu car newydd.