Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cyllideb refeniw’r Cyngor

Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, mae’n rhaid i’r cyngor bennu cyllideb ar gyfer ei wariant o ddydd i ddydd, y gyllideb refeniw. Mae’n ofynnol o dan y gyfraith bod y cyngor yn pennu cyllideb gytbwys, sy’n golygu na all y gwariant fod yn fwy nag incwm y cyngor.

Cyllideb Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2024-25 yw £376.6m

O ble mae’r arian yn dod?

  • £285.2m (76%) - oddi wrth Lywodraeth cymru
  • £91.4m (24%) - eich Treth y Cyngor

Ble mae’r arian yn mynd?

Mae’r cyngor yn defnyddio’i gyllideb i ddarparu cannoedd o wahanol wasanaethau i drigolion y fwrdeistref sirol.  Rhai ohonynt yn rhai amlwg iawn, fel:

  • casglu gwastraff 
  • chynnal ffyrdd

Mae gwasanaethau eraill yn aml allan o’r golwg, er enghraifft:

  • darparu gofal maeth i blant
  • gofalu am bobl hŷn a bregus
  • cyflawni archwiliadau hylendid bwyd
  • cyfraniad i Wasanaeth Tân Caolbarth a Gorllewin Cymru
  •  darparu addysg i blant ag anghenion arbennig

Darllenwch y Cyllideb Refeniw’r Cyngor 2024-25 (Yn Saesneg).

Adroddiad Blaenorol