Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Rhaglen gyfalaf y Cyngor

Mae’r cyngor yn rhoi pwyslais mawr ar bwysigrwydd buddsoddi cyfalaf fel modd i adfywio ein cymunedau a darparu adeiladau a seilwaith modern, diogel. Mae buddsoddi cyfalaf nid yn unig yn arwain at well cyfleusterau a gwasanaethau, ond hefyd yn creu swyddi a manteision economaidd i bobl leol.

Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf 2024/25 yw rhyw £79.5m.

Oble mae’r arian yn dod?

O gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru, o dderbyniadau cyfalaf a benthyca darbodus: £30.5m.

O ffynonellau allanol eraill: £49m. Dyma'r arian y mae'r cyngor wedi gwneud cais llwyddiannus amdano, er gwaethaf cystadlaethau gan sefydliadau eraill. Dim ond at ddibenion penodol y gellir defnyddio'r cyllid hwn.

Mae'n gyllid, er enghraifft, i'n helpu i wireddu ein dyheadau adfywio ar draws y fwrdeistref sirol ac arian ar gyfer prosiectau gwella yn ein cymunedau na fyddent fel arall byth yn digwydd.

Enghraifft o'r math hwn o gyllid yw'r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif lle mae Llywodraeth Cymru yn ariannu 65% o gost unrhyw fuddsoddiad gyda'r 35% sy'n weddill yn cael ei ariannu gan y Cyngor.

Ble mae’r arian yn mynd?

Mae’r arian yn cael ei ddyrannu i amrywiaeth o brosiectau buddsoddi, gan gynnwys:

  • cynnal adeiladau
  • priffyrdd a gwelliannau i gymdogaethau megis cynnal a chadw pontydd a strwythurau eraill
  • cyllid i wella’n ffyrdd
  • Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl i alluogi pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain

Mae’r cyngor yn falch o’i lwyddiant hanesyddol i ddenu arian cyfalaf a chyflawni prosiectau o ansawdd uchel yn brydlon ac o fewn y gyllideb, a bydd yn parhau i wneud hynny i’r dyfodol.

Gallwch ddarllen mwy am y Rhaglen Gyfalaf 2024-25 (Yn Saesneg).

Adroddiad Blaenorol