Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Esboniad o gyllideb 2024-25

Mae gosod y gyllideb yn broses gymhleth lle mae'r cyngor yn llunio ei gynlluniau i ariannu'r gwasanaethau hanfodol y mae'n eu darparu ar draws y flwyddyn i ddod.

Yn ôl y gyfraith, mae angen i'r cyngor bennu cyllideb gytbwys. Mae hyn yn golygu na allwn wario mwy o arian na'r adnoddau sydd gennym ar gael.

Daw cyllid y cyngor o ddwy brif ffynhonnell:

  • Grantiau Llywodraeth Cymru
  • Treth y Cyngor
Cyllideb y Cyngor 2024/25 Cyllideb y Cyngor 2024/25

Prif amcanion cyffredinol y cyngor yn y broses o bennu'r gyllideb eleni yw:

  • i ddiogelu gwasanaethau a swyddi ac i gyfyngu ar yr effaith ar lefelau Treth y Cyngor
  • ymateb i’r hyn a ddywedodd ein cymunedau wrthym sy’n bwysig drwy’r ymgyrch ymgysylltu Dewch i Siarad a’n hymgynghoriad ar y Gyllideb, cyn belled ag y bo modd o ystyried yr arian cyfyngedig sydd ar gael.

Eich adborth

Ers yr haf diwethaf, rydym wedi cael adborth gan fwy na 2,500 o bobl drwy:

  • ein hymgyrch ymgysylltu Dewch i Siarad yn gynnar yn y broses o osod y gyllideb
  • pobl a ymatebodd i’n hymgynghoriadau cyhoeddus yn y cyfnod cyn gosod y gyllideb derfynol

Rydym wedi gwrando’n astud ar farn pobl. Er na allwn fforddio gwneud popeth, rydym wedi gwneud nifer o newidiadau i’r cynigion cyllidebol y cytunwyd arnynt yn y Cabinet a’r Cyngor ar 6 a 7 Mawrth 2024.

Gallwch ddarllen yr adroddiad cyllideb llawn yn www.npt.gov.uk/adroddiadcyllideb. Mae'n cynnwys:

  • rhestr o gynigion ar gyfer arbedion a chynhyrchu incwm
  • crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad
  • rhestr o ragdybiaethau chwyddiant
  • y gyllideb fanwl