Trwyddedu adloniant
Mae'n ofynnol i fangreoedd sy'n darparu "adloniant rheoledig" feddu ar dystysgrif mangre/mangre clwb. Cynhelir adloniant rheoledig os bydd cynulleidfa'n bresennol ar gyfer yr adloniant hwnnw, ac os caiff ei ddarparu at y diben, neu at ddibenion sy'n cynnwys difyrru'r gynulleidfa honno.
Mae adloniant rheoledig yn cynnwys:
- perfformiad drama
- arddangosfa ffilm
- digwyddiad chwaraeon dan do
- adloniant paffio neu reslo
- perfformiad cerddoriaeth fyw
- chwarae cerddoriaeth a recordiwyd
- perfformiad dawns
- unrhyw adloniant o ddisgrifiad tebyg i gerddoriaeth fyw, cerddoriaeth wedi'i recordio a pherfformiad dawns .
Mae nifer o eithriadau i'r gofyniad i feddu ar drwydded am yr adloniant uchod, a bu cryn dipyn o ddadreoleiddio. Rydym felly'n argymell eich bod yn darllen yr wybodaeth ychwanegol a'r arweiniad ar sut i wneud cais sydd ar gael ar wefan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Hamdden.
Lluniaeth yn Hwyr y Nos
Mae'n ofynnol i fangreoedd sy'n darparu "lluniaeth yn hwyr y nos" feddu ar drwydded mangre.
Lluniaeth yn hwyr y nos yw gwerthu bwyd twym neu ddiod i'r cyhoedd ei fwyta/yfed (yn y fangre neu'r tu allan iddi) rhwng 11pm a 5am.
Mae mwy o wybodaeth ac arweiniad ar sut i wneud cais ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref.