Lluosi yng Nghastell-nedd Port Talbot - Prosiectau llwyddiannus
Sgiliau
Enw'r cwmni | Sgiliau: Teitl y prosiect ac amlinelliad o'r prosiect |
---|---|
INSPIRE Training |
Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle Ailgynnau a dyblygu ein rhaglen Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle yr oeddem yn ei darparu fel ACT Enhance yn flaenorol. Mae hyn yn cynnwys y 3 maes rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol i'r rheini sy'n 19+ oed nad ydynt wedi cael TGAU yn y meysydd pwnc hyn yn flaenorol. |
Whitehead-Ross Education and Consulting Ltd. |
Yr Hwb Sgiliau Digidol Bydd prosiect yr Hwb Sgiliau Digidol yn uwchsgilio 250 o gyfranogwyr dros 18 mis i ddatblygu sgiliau digidol mewn arbenigeddau megis codio, seiberddiogelwch a Desg Gymorth TGCh. |
MMI Trading with Care |
Y Llwybr i Ofal Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar gyflwyno'r rhaglen hyfforddiant Y Llwybr i Ofal i bobl sy'n chwilio am swyddi, cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith yn y sector gofal. Ein cynulleidfa darged yw pobl sy'n byw yn y gymuned sy'n ceisio dod o hyd i ffordd yn ôl i gyflogaeth/wirfoddoli, yn benodol yn y sector gofal. Dyluniwyd y rhaglen i gefnogi pobl gyda rhwystrau i'r gwaith, y gellir eu hystyried fel y rheini sydd bellaf o'r farchnad lafur. Gall hyn gynnwys pobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl lefel isel, pobl ag anawsterau clywed, pobl ifanc, rhieni sengl, pobl â chyflyrau sy'n effeithio ar eu gallu i weithio, pobl y mae angen iddynt ailhyfforddi, cyn-droseddwyr, pobl ag anableddau a'r rheini sydd wedi'u heithrio'n gymdeithasol. |
Ymddiriedolaeth y Tywysog, Cymru |
Llwybrau i Sgiliau - CNPT Bydd y prosiect hwn yn defnyddio'n harbenigedd fel elusen ieuenctid arweiniol i gefnogi, ysgogi ac ymgysylltu â phobl ifanc rhwng 16 i 30 oed yng Nghastell-nedd Port Talbot (CNPT) sy'n anweithgar yn economaidd neu NEET, ac sy'n profi rhwystrau i ddechrau neu ddatblygu eu taith datblygu sgiliau. Bydd y prosiect yn cynnig porth ac amrywiaeth o opsiynau llwybrau datblygu sgiliau amgen sy'n ategu darpariaeth leol, ac mae'n cynnwys sgiliau bywyd PCE (personol, cymdeithasol, emosiynol) hanfodol, parodrwydd at waith, sgiliau cyflogadwyedd a hyfforddiant cynnwys/lefel mynediad sy'n benodol i sector. |
Coed Lleol |
Cysylltu Pobl, Natur a Lleoedd drwy sgiliau a hyfforddiant Bydd y prosiect hwn yn darparu rhaglenni sy'n seiliedig ar ddysgu a natur i wella hyder; gan greu rhwydweithiau ar gyfer hyfforddiant, gwirfoddoli a gwneud cynnydd; gan ddarparu cyrsiau i ysbrydoli pobl i symud tuag at yrfaoedd 'gwyrdd' amgylcheddol; cysylltu cymunedau, adfer a rheoli safleoedd natur coetir, gwella hygyrchedd drwy welliannau isadeiledd. Gan ddefnyddio monitro cadarn i wella canlyniadau ac adeiladu ar bartneriaethau o fewn ymchwil, mae'r prosiect hwn yn cefnogi ffyniant cynaliadwy lleol tymor hir. |
The Bulldogs |
Prosiect 'Achieve' The Bulldogs Rhaglen addysg amgen i gefnogi myfyrwyr sy'n ymddieithrio o fewn addysg prif ffrwd drwy weithio gyda'r tîm Cynnwys Ieuenctid sydd eisoes yn gweithio yn yr 8 ysgol yn CNPT. Darparu cymwysterau achrededig mewn ffitrwydd yn ogystal â sesiynau maetheg/lles digidol/cyllidebu/hunanofal/agwedd cadarnhaol at y corff/perthnasoedd iach/rhifedd/llythrennedd/lles/ymwybyddiaeth ofalgar a ffitrwydd. Cynigir y sesiynau i fyfyrwyr blynyddoedd 9 i 11 yn wythnosol. Rydym hefyd am gefnogi'r rheini sydd fwyaf anodd eu cyrraedd sy'n NEET, a'r rheini sy'n gadael gofal, gan gynnig cymwysterau i'w helpu i gyrraedd a chyflawni eu potensial. Byddem yn cynnig rhaglen 12 wythnos iddyn nhw, gan weithio ar sgiliau a fydd yn eu cefnogi yn eu bywyd ac i ddod o hyd i gyflogaeth. |
Prifysgol Abertawe |
Sgiliau SWITCH Bydd y prosiect arfaethedig yn defnyddio fframwaith 'cynyddu sgiliau' i ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi datgarboneiddio, sero net, gweithgynhyrchu cynaliadwy, swyddi gwyrdd a digidol. Mae'r prosiect yn cynnwys ymagwedd synergyddol i weithio gydag ysgolion a cholegau lleol, ac atgyfnerthu cydweithrediad rhwng y byd academaidd a diwylliant i ddarparu sgiliau newydd, ailsgilio ac uwchsilio unigolion, yn bennaf mewn cyflogaeth, a chefnogi creu grŵp o unigolion amrywiol a brwdfrydig i ymgysylltu â'r cyfleoedd niferus y mae gan sero net i'w cynnig. |
Cyngor Castell-nedd Port Talbot |
Prosiect Cynhwysiant Digidol a Galluogi Digidol CNPT Mae'r prosiect yn datblygu gwaith presennol i leihau anghydraddoldeb digidol i grwpiau dan anfantais, gan gynyddu mynediad at dechnolegau digidol sy'n gwella bywyd dyddiol/heneiddio'n dda, ac yn cefnogi dinasyddion sydd wedi'u heithrio'n ddigidol i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae ymagwedd amlweddog yn cynnwys:
|
Lluosi
Enw'r cwmni | Sgiliau: Teitl y prosiect ac amlinelliad o'r prosiect |
---|---|
Whitehead-Ross Education and Consulting Ltd |
Lluosi Bydd y prosiect Multiply yn darparu ymyriadau rhifedd megis Rhifedd i Rieni i gefnogi eu plant gyda mathemateg, sgiliau mathemateg ar gyfer adeiladu, rheoli arian a Mathemateg drwy Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill. |
Dysgu Oedolion yn y Gymuned CNPT |
Cynyddu eich Hyder Bydd y rhaglen yn ceisio cyrraedd pobl o amrywiaeth o garfanau i ddatblygu rhifedd gweithredol, hyder gyda rhifau a gwella ansawdd byw unigolion. Bydd gweithio gyda sefydliadau megis y gwasanaethau cymdeithasol, cyflogwyr, gwasanaethau cyflogadwyedd ac undebau credyd yn hanfodol i nodi anghenion a chynhyrchu atgyfeiriadau. |
Grŵp Colegau NPTC |
Mae Rhifedd yn Bwysig: Datblygu Hyfforddiant Rhifedd Effeithiol i Weithwyr Bydd y prosiect hwn yn cefnogi gweithwyr lleol i ddatblygu sgiliau rhifedd eu gweithlu. Bydd y model cyflawni yn hygyrch ac yn cynnwys e-ddysgu, dysgu wyneb yn wyneb, dysgu mewnol, dysgu o bell a dysgu hybrid. Bydd y cyrsiau’n cynnwys cymysgedd o gymwysterau achrededig, heb eu hachredu a phwrpasol. |
Grŵp Colegau NPTC |
Rhifedd yn y Cartref - Grymuso Rhieni i Gefnogi Dysgu eu Plant Darparu gweithgareddau a chyfleoedd dysgu i blant a'u haelodau teulu sy'n oedolion fel y byddant i gyd yn datblygu eu sgiliau rhifedd eu hunain ac yn mwynhau dysgu fel teulu cyfan. Mae'r cyrsiau'n cynnwys:
|
Grŵp Colegau NPTC |
Rhifedd ar gyfer Llwyddiant: Cyrsiau Dwys a Hyblyg ar gyfer Addysg Oedolion Bydd y prosiect yn datblygu ac yn cyflwyno dau gwrs rhifedd hyblyg. Bydd Llinyn 1 yn cynnwys cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru lefel 2, a bydd ar gael fel cwrs achrededig ac anachrededig. Bydd Llinyn 2 yn cynnwys 4 uned Agored Cymru ar lefel 2, a fydd yn naturiol yn darparu tua 80% o'r fanyleb TGAU. |
Educ8 Training Ltd |
Lluosi – Calculating your potential Ar y lefel mynediad, mae lle i dyfu!
|
VIEW (DOVE) LTD – Gweithdy DOVE |
Coginio ar Gyllideb Byddwn yn darparu rhaglen sy'n canolbwyntio ar addysgu pobl sut i gyllidebu er mwyn gwneud siop bwyd wythnosol llwyddiannus. Bydd y rhaglen yn cynnwys y sesiynau coginio ymarferol, gan edrych ar sut i ddefnyddio mathemateg yn ymarferol yn y gegin - pwyso, mesur a monitro tymereddau wrth ddatblygu a gwella'r sgiliau sydd eu hangen i gynllunio, paratoi a choginio pryd o fwyd iach o fewn cyllideb benodol. |