Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Lluosi yng Nghastell-nedd Port Talbot - Prosiectau llwyddiannus

Sgiliau

Enw'r cwmni Sgiliau: Teitl y prosiect ac amlinelliad o'r prosiect
INSPIRE Training

Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle

Ailgynnau a dyblygu ein rhaglen Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle yr oeddem yn ei darparu fel ACT Enhance yn flaenorol. Mae hyn yn cynnwys y 3 maes rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol i'r rheini sy'n 19+ oed nad ydynt wedi cael TGAU yn y meysydd pwnc hyn yn flaenorol.

Whitehead-Ross Education and Consulting Ltd.

Yr Hwb Sgiliau Digidol

Bydd prosiect yr Hwb Sgiliau Digidol yn uwchsgilio 250 o gyfranogwyr dros 18 mis i ddatblygu sgiliau digidol mewn arbenigeddau megis codio, seiberddiogelwch a Desg Gymorth TGCh.

MMI Trading with Care

Y Llwybr i Ofal

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar gyflwyno'r rhaglen hyfforddiant Y Llwybr i Ofal i bobl sy'n chwilio am swyddi, cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith yn y sector gofal. Ein cynulleidfa darged yw pobl sy'n byw yn y gymuned sy'n ceisio dod o hyd i ffordd yn ôl i gyflogaeth/wirfoddoli, yn benodol yn y sector gofal. Dyluniwyd y rhaglen i gefnogi pobl gyda rhwystrau i'r gwaith, y gellir eu hystyried fel y rheini sydd bellaf o'r farchnad lafur. Gall hyn gynnwys pobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl lefel isel, pobl ag anawsterau clywed, pobl ifanc, rhieni sengl, pobl â chyflyrau sy'n effeithio ar eu gallu i weithio, pobl y mae angen iddynt ailhyfforddi, cyn-droseddwyr, pobl ag anableddau a'r rheini sydd wedi'u heithrio'n gymdeithasol.

Ymddiriedolaeth y Tywysog, Cymru

Llwybrau i Sgiliau - CNPT

Bydd y prosiect hwn yn defnyddio'n harbenigedd fel elusen ieuenctid arweiniol i gefnogi, ysgogi ac ymgysylltu â phobl ifanc rhwng 16 i 30 oed yng Nghastell-nedd Port Talbot (CNPT) sy'n anweithgar yn economaidd neu NEET, ac sy'n profi rhwystrau i ddechrau neu ddatblygu eu taith datblygu sgiliau. Bydd y prosiect yn cynnig porth ac amrywiaeth o opsiynau llwybrau datblygu sgiliau amgen sy'n ategu darpariaeth leol, ac mae'n cynnwys sgiliau bywyd PCE (personol, cymdeithasol, emosiynol) hanfodol, parodrwydd at waith, sgiliau cyflogadwyedd a hyfforddiant cynnwys/lefel mynediad sy'n benodol i sector.

Coed Lleol

Cysylltu Pobl, Natur a Lleoedd drwy sgiliau a hyfforddiant

Bydd y prosiect hwn yn darparu rhaglenni sy'n seiliedig ar ddysgu a natur i wella hyder; gan greu rhwydweithiau ar gyfer hyfforddiant, gwirfoddoli a gwneud cynnydd; gan ddarparu cyrsiau i ysbrydoli pobl i symud tuag at yrfaoedd 'gwyrdd' amgylcheddol; cysylltu cymunedau, adfer a rheoli safleoedd natur coetir, gwella hygyrchedd drwy welliannau isadeiledd.

Gan ddefnyddio monitro cadarn i wella canlyniadau ac adeiladu ar bartneriaethau o fewn ymchwil, mae'r prosiect hwn yn cefnogi ffyniant cynaliadwy lleol tymor hir.

The Bulldogs

Prosiect 'Achieve' The Bulldogs

Rhaglen addysg amgen i gefnogi myfyrwyr sy'n ymddieithrio o fewn addysg prif ffrwd drwy weithio gyda'r tîm Cynnwys Ieuenctid sydd eisoes yn gweithio yn yr 8 ysgol yn CNPT. Darparu cymwysterau achrededig mewn ffitrwydd yn ogystal â sesiynau maetheg/lles digidol/cyllidebu/hunanofal/agwedd cadarnhaol at y corff/perthnasoedd iach/rhifedd/llythrennedd/lles/ymwybyddiaeth ofalgar a ffitrwydd. Cynigir y sesiynau i fyfyrwyr blynyddoedd 9 i 11 yn wythnosol.

Rydym hefyd am gefnogi'r rheini sydd fwyaf anodd eu cyrraedd sy'n NEET, a'r rheini sy'n gadael gofal, gan gynnig cymwysterau i'w helpu i gyrraedd a chyflawni eu potensial. Byddem yn cynnig rhaglen 12 wythnos iddyn nhw, gan weithio ar sgiliau a fydd yn eu cefnogi yn eu bywyd ac i ddod o hyd i gyflogaeth.

Prifysgol Abertawe

Sgiliau SWITCH

Bydd y prosiect arfaethedig yn defnyddio fframwaith 'cynyddu sgiliau' i ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi datgarboneiddio, sero net, gweithgynhyrchu cynaliadwy, swyddi gwyrdd a digidol. Mae'r prosiect yn cynnwys ymagwedd synergyddol i weithio gydag ysgolion a cholegau lleol, ac atgyfnerthu cydweithrediad rhwng y byd academaidd a diwylliant i ddarparu sgiliau newydd, ailsgilio ac uwchsilio unigolion, yn bennaf mewn cyflogaeth, a chefnogi creu grŵp o unigolion amrywiol a brwdfrydig i ymgysylltu â'r cyfleoedd niferus y mae gan sero net i'w cynnig.

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Prosiect Cynhwysiant Digidol a Galluogi Digidol CNPT

Mae'r prosiect yn datblygu gwaith presennol i leihau anghydraddoldeb digidol i grwpiau dan anfantais, gan gynyddu mynediad at dechnolegau digidol sy'n gwella bywyd dyddiol/heneiddio'n dda, ac yn cefnogi dinasyddion sydd wedi'u heithrio'n ddigidol i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae ymagwedd amlweddog yn cynnwys:

  • Rhwydwaith o staff a gwirfoddolwyr Cynhwysiant/Galluogi Digidol sy'n darparu cefnogaeth a dargedir i unigolion, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu neu fynediad ychwanegol
  • Galluogi mynediad fforddiadwy/am ddim drwy fenthyciadau cyfarpar a chynllun Databank
  • Llwybrau cynnydd i hyfforddiant achrededig i wella cyflogadwyedd.  Bydd hyn yn gwella bywydau unigolion drwy eu helpu i aros mewn cysylltiad, i reoli gweithgareddau dyddiol ac i fod yn fwy annibynnol ac ymgysylltu mwy

Lluosi

Enw'r cwmni Sgiliau: Teitl y prosiect ac amlinelliad o'r prosiect
Whitehead-Ross Education and Consulting Ltd

Lluosi

Bydd y prosiect Multiply yn darparu ymyriadau rhifedd megis Rhifedd i Rieni i gefnogi eu plant gyda mathemateg, sgiliau mathemateg ar gyfer adeiladu, rheoli arian a Mathemateg drwy Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill.

Dysgu Oedolion yn y Gymuned CNPT

Cynyddu eich Hyder

Bydd y rhaglen yn ceisio cyrraedd pobl o amrywiaeth o garfanau i ddatblygu rhifedd gweithredol, hyder gyda rhifau a gwella ansawdd byw unigolion.

Bydd gweithio gyda sefydliadau megis y gwasanaethau cymdeithasol, cyflogwyr, gwasanaethau cyflogadwyedd ac undebau credyd yn hanfodol i nodi anghenion a chynhyrchu atgyfeiriadau.

Grŵp Colegau NPTC

Mae Rhifedd yn Bwysig: Datblygu Hyfforddiant Rhifedd Effeithiol i Weithwyr

Bydd y prosiect hwn yn cefnogi gweithwyr lleol i ddatblygu sgiliau rhifedd eu gweithlu. Bydd y model cyflawni yn hygyrch ac yn cynnwys e-ddysgu, dysgu wyneb yn wyneb, dysgu mewnol, dysgu o bell a dysgu hybrid.

Bydd y cyrsiau’n cynnwys cymysgedd o gymwysterau achrededig, heb eu hachredu a phwrpasol.  

Grŵp Colegau NPTC

Rhifedd yn y Cartref - Grymuso Rhieni i Gefnogi Dysgu eu Plant

Darparu gweithgareddau a chyfleoedd dysgu i blant a'u haelodau teulu sy'n oedolion fel y byddant i gyd yn datblygu eu sgiliau rhifedd eu hunain ac yn mwynhau dysgu fel teulu cyfan. Mae'r cyrsiau'n cynnwys:

  • Rhifyddeg sylfaenol - dyluniwyd i ddatblygu sgiliau rhifyddeg megis lluosi a rhannu
  • Mathemateg bob dydd - defnyddio sgiliau mathemateg mewn sefyllfaoedd bob dydd, megis siopa, cyfrifo gostyngiadau, cynnal a chadw cartref
  • Llythrennedd ariannol - creu cyllideb aelwyd, rheoli treuliau,
    deall cyfraddau llog
Grŵp Colegau NPTC

Rhifedd ar gyfer Llwyddiant: Cyrsiau Dwys a Hyblyg ar gyfer Addysg Oedolion

Bydd y prosiect yn datblygu ac yn cyflwyno dau gwrs rhifedd hyblyg. Bydd Llinyn 1 yn cynnwys cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru lefel 2, a bydd ar gael fel cwrs achrededig ac anachrededig. Bydd Llinyn 2 yn cynnwys 4 uned Agored Cymru ar lefel 2, a fydd yn naturiol yn darparu tua 80% o'r fanyleb TGAU.

Educ8 Training Ltd

Lluosi – Calculating your potential

Ar y lefel mynediad, mae lle i dyfu!
Drwy ymgysylltu â hybiau cymunedol a chyflogwyr, gall unigolion wella'u sgiliau rhifedd mewn amrywiaeth o ffyrdd sydd fwyaf addas ar gyfer eu hanghenion a'u lefel.

  • Asesiad cychwynnol manwl a defnyddiol i benderfynu ar y man dechrau
  • Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar y cam ymgysylltu cychwynnol ac wrth gwpla'r cwrs
  • Cyrsiau byr sy'n canolbwyntio ar rifedd i'w ddefnyddio ym mywyd bob dydd, ond sy'n cynnwys magu hyder, cefnogaeth les ac atgyfeirio i sgiliau meddal
  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol i unigolion cyflogedig o fewn y gweithle drwy ymgysylltu â busnesau
VIEW (DOVE) LTD – Gweithdy DOVE

Coginio ar Gyllideb

Byddwn yn darparu rhaglen sy'n canolbwyntio ar addysgu pobl sut i gyllidebu er mwyn gwneud siop bwyd wythnosol llwyddiannus. Bydd y rhaglen yn cynnwys y sesiynau coginio ymarferol, gan edrych ar sut i ddefnyddio mathemateg yn ymarferol yn y gegin - pwyso, mesur a monitro tymereddau wrth ddatblygu a gwella'r sgiliau sydd eu hangen i gynllunio, paratoi a choginio pryd o fwyd iach o fewn cyllideb benodol.