Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cronfa Blaenoriaeth i Fusnesau Lleol: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am arian yw: 26 Ebrill 2024.
Rhaid i bob prosiect gael ei gwblhau erbyn: 31 Rhagfyr 2024.

Gwybodaeth am y gronfa

Hoffai Cyngor Castell-nedd Port Talbot wahodd ceisiadau am gyllid ar gyfer ei Gronfa Blaenoriaeth i Fusnesau Lleol.

Mae'r cyllid cyfalaf a refeniw hwn, sydd ar gael drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, ar gyfer y canlynol:

  • perchnogion busnes
  • perchnogion eiddo masnachol

Themâu'r gronfa

  1. Eiddo
  2. Twf
  3. Arloesedd
  4. Meithrin gallu a chymhwysedd

Nod y Gronfa Blaenoriaeth i Fusnesau Lleol yw cefnogi prosiectau yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n mynd i'r afael â blaenoriaethau lleol ar unwaith. Mae'r gronfa yn ceisio cefnogi prosiectau sy'n creu twf cynaliadwy yn ein heconomi leol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gweld buddsoddiad yn ein busnesau lleol yn hanfodol i gefnogi cymunedau lleol a'r economi ranbarthol.

Mae buddsoddi mewn datblygu busnesau lleol yn hanfodol er mwyn sicrhau cynaladwyedd tymor hir unrhyw fenter, drwy feithrin gallu, cynyddu cynhyrchiant, gwella sgiliau a datblygu eu hyblygrwydd i ymateb i anghenion cyfnewidiol yr economi ehangach.

Gyda buddsoddiad o'r fath, mae Castell-nedd Port Talbot yn meithrin economi fwy cadarn, arloesol, gwyrddach ac amlbwrpas, sydd â gweithlu medrus a hyblyg sy'n gallu gwrthsefyll yr heriau sy'n wynebu'r economi fyd-eang dros amser.

Cyllid sydd ar gael:

Y grant lleiaf sydd ar gael: Hyd at 70% o'r costau, heb fod yn is na £50,001.

Y grant mwyaf sydd ar gael: Hyd at 70% o'r costau, heb fod yn fwy na £250,000.

Rhaid i unrhyw weithgaredd a ariennir gan y Gronfa Blaenoriaeth i Fusnesau Lleol gael ei gynnal yn amlwg yn CBSCNPT.

Mae'r holl ddyfarniadau grant yn ddewisol, a chânt eu hystyried fesul achos.

Gweithgareddau Cymwys

Eiddo

  • Gwella, adnewyddu neu ddodrefnu eiddo masnachol sy'n eiddo i berchen-feddianwyr neu lesddaliad

Twf

  • Grantiau refeniw a chyfalaf ar gyfer twf busnes lle gellir dangos bod gan y busnes sy'n cyflwyno cais gynllun twf clir a chanfyddadwy
  • Cyllid lle gall yr ymgeisydd ddangos y bydd swyddi'n cael eu creu neu eu diogelu o ganlyniad uniongyrchol i'r buddsoddiad

Arloesedd

  • Cyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf a refeniw mewn busnesau sy'n ymwneud â'r sector Ymchwil, Datblygu ac Arloesi
  • Cyllid ar gyfer prosiectau sy'n arddangos enghreifftiau o arloesedd, h.y. arloesedd newydd mewn prosesau/cynhyrchion/gwasanaethau/technoleg

Meithrin gallu /cymhwysedd

  • Cyllid ar gyfer arallgyfeirio'r economi leol – busnesau o fewn sectorau busnes allweddol sy'n mynd i mewn i farchnadoedd/ddiwydiannau newydd/busnes newydd sy'n ehangu'r hyn sydd gan y sector i'w gynnig
  • Cyllid ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi datblygiad y gadwyn gyflenwi sy'n gysylltiedig â chyflawni prosiectau rhanbarthol allweddol a/neu gyfrannu at gapasiti sectorau allweddol sy'n tyfu neu'n dod i'r amlwg fel FLOW, TGCh/Meddalwedd, Gweithgynhyrchu, Peirianneg ac Ynni Adnewyddadwy neu weithgareddau Carbon Isel

Gwybodaeth am yr ymgeisydd

I drafod eich prosiect arfaethedig, eich cais a'ch ffurflen gais, e-bostiwch: LBPF@npt.gov.uk