Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Prosiectau a Gymeradwywyd Sgiliau Galwad Agored Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU a Lluosi R2

Sgiliau

Prifysgol Abertawe

Technocamps:  Llwybrau Sgiliau Digidol

Bydd y prosiect hwn yn datblygu, yn meithrin ac yn cefnogi llwybrau sgiliau digidol trwy ddarparu ymyriadau atyniadol, galluogol a phryfoclyd i gynulleidfa eang. Drwy weithio gyda'r rheini mewn addysg uwchradd hwyr ac addysg bellach – yn enwedig y rheini sydd mewn perygl o fod yn NEET a'r rheini sy'n chwilio am waith neu sy'n gwella'u sgiliau yn y sector digidol – byddwn yn datblygu eu hawydd a'u sgiliau, gan ddarparu ymyriadau ystyrlon sy'n arwain at dwf personol ac economaidd. Bydd gan ymyriadau sy'n ymwneud â sgiliau digidol hefyd thema sy'n seiliedig ar STEM, gan ddarparu profiad dilys i fuddiolwyr o'r defnydd o sgiliau digidol ar draws amrywiaeth eang o sectorau.

Bydd y prosiect hwn yn ategu chwaer brosiect sydd wedi'i ariannu fel rhan o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Abertawe, gan ddarparu ymyriadau pwrpasol sy'n diwallu anghenion cyfranogwyr lleol wrth elwa o fod yn rhan o raglen ehangach o ddarpariaeth.

Computer Aid

Sgiliau Digidol yn y Gweithle

Bydd y prosiect hwn yn mynd i'r afael â'r angen am hyfforddiant sgiliau TG Uwch/Arbenigol ar gyfer pobl gyflogedig drwy ddarparu cyfleoedd hyfforddi wedi'u hariannu'n llawn ar gyfer cyrsiau "mewn union bryd" byr i'w helpu i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, aros yn y farchnad lafur neu newid swyddi. Bydd y prosiect yn cynnig hyfforddiant mewn meddalwedd cynhyrchiant swyddfa a sgiliau TG mwy arbenigol o amgylch codio, Dylunio Graffeg / Delweddu Data, Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur a Marchnata Digidol. Bydd y cyrsiau'n rhai ymarferol sy'n cael eu harwain gan diwtor ar ffurf rithwir (ar-lein) i weddu i anghenion dysgwyr. Bydd gan bob cynrychiolydd yr opsiwn i ennill cymwysterau achrededig ac ardystiad heb ei achredu pwrpasol.

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Datblygu Pobl at y Dyfodol

Bydd y prosiect "Datblygu Pobl at y Dyfodol" yn darparu ymyriadau Pobl a Sgiliau i bobl sy'n chwilio am gyflogaeth a hyfforddiant trwy lwybr prentisiaeth yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot.  Fel sefydliad, mae angen i ni allu dod o hyd i bobl sydd â'r sgiliau cywir i lenwi swyddi allweddol.  Nod ein pecyn cymorth cynllunio olyniaeth yw nodi rolau sy'n hanfodol i fusnesau, camau gweithredu a chyfleoedd dysgu, hyfforddi a datblygu.  O fewn y cyfnod hwn rydym yn bwriadu recriwtio 10 prentis a 2 brentisiaeth gradd mewn adrannau lle mae tystiolaeth a gasglwyd yn nodi prinder sgiliau a swyddi sy'n hanfodol ym myd busnes fel rhan o'n proses cynllunio olyniaeth.  Byddwn hefyd yn recriwtio Swyddog Cymorth Busnes i gynorthwyo gyda gweinyddu a chefnogi'r prosiect.

Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot

Cynllun Ceidwaid Sgiliau

Bydd y cynllun ‘Cynllun Ceidwaid Sgiliau' yn canolbwyntio ar greu a meithrin dinasyddion cyflogadwy, ymroddedig a moesegol, gyda'r nod allweddol o gysylltu datblygiad sgiliau â chyfleoedd gyrfa yn y Wildfox Resorts Group Ltd ("Wildfox"), a chyfleoedd cyflogaeth lleol ehangach. Dan arweiniad Grŵp Colegau NPTC, bydd tîm amlddisgyblaethol yn ymgysylltu â chymunedau Cwm Afan a'r rhai cyfagos, gan ddarparu digwyddiadau ymdrochol, gweithdai a modiwlau achrededig i godi gobaith ac uchelgais drwy greu llwybrau sylfaenol at hyfforddiant ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Bydd y cynllun yn trawsnewid bywydau, gan gynorthwyo i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru am Gymru fel Cenedl Ail Gyfleoedd a Dysgu Gydol Oes.

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Rhwydwaith Cymorth Dysgu Technoleg Ddigidol (DTLSN): Sgiliau TG Arbenigol

Nod y prosiect yw datblygu sgiliau TG yn ardal Castell-nedd Port Talbot (CNPT). Bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd (PMC), ar y cyd â chefnogaeth gan Raglen Technocamps (RhT), sydd â'i chanolfan ym Mhrifysgol Abertawe, yn cyflwyno cyfres o weithdai sgiliau TG arbenigol a chyrsiau achrededig a heb eu hachredu. Mae'r gweithdai a'r cyrsiau hyn yn cynnwys:

  • gweithgynhyrchu clyfar
  • dysgu peirianyddol
  • gwaith fforensig digidol
  • ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch
  • rhyngweithio â data (Delweddu data)
  • technoleg a chryptograffi blocgadwyn
  • codio creadigol

Cynhelir y rhain ar draws rhanbarth CNPT mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol dros gyfnod o 12 mis. Er enghraifft, mewn busnesau lleol, llyfrgelloedd a chanolfannau hyfforddi o amgylch rhanbarth CNPT.

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Prosiect Llwybrau at Gynnydd

Bydd y prosiect "Prosiect Llwybrau at Gynnydd" yn darparu ymyriadau Pobl a Sgiliau i'n pobl ifanc sy'n chwilio am lwybr cwricwlwm amgen drwy opsiwn i ddewis cymhwyster galwedigaethol (CG) yn ein system addysg uwchradd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Nod Cwricwlwm Amgen yw galluogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a phrofiadau nad ydynt efallai ar gael nac yn gyraeddadwy mewn addysg brif ffrwd. Mae'r cwricwlwm yn caniatáu'r cwmpas a'r hyblygrwydd i dderbyn disgyblion drwy gydol y flwyddyn academaidd, o fewn cwmpas dyddiadau dechrau a gorffen y prosiect, sydd mewn perygl o adael addysg heb fawr ddim neu ddim cymwysterau ffurfiol.

Bydd Sgiliau a Hyfforddiant o fewn CNPT yn datblygu ystod o gyrsiau achrededig dwys byr a/neu gymwysterau galwedigaethol gan sefydliad dyfarnu cymeradwy cydnabyddedig (e.e. City and Guilds). 

Prifysgol Abertawe

Bŵtcamps Sgiliau Digidol

Mae'r prosiect hwn yn bwriadu cyflwyno sesiynau dwys sgiliau digidol ar ffurf cyrsiau micro-gymwysterau, gweithdai i ysgolion/ar lefel addysg bellach a sesiynau allgymorth cymunedol. Y prif nod yw datblygu sgiliau digidol pobl o bob oed a gallu. Cyflwynir y sesiynau dwys yn rhad ac am ddim i gyfranogwyr a chyflogwyr drwy gydol y prosiect hwn. Bydd y rhwydwaith sefydledig o Technocamps a'i fraich fusnes, 'The Institute of Coding' yng Nghymru, yn cael eu defnyddio i sicrhau bod y cyrsiau a'r gweithdai a ddarperir yn addas ar gyfer diwydiant ac yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr allgymorth cymunedol yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau digidol hanfodol.

JES Group Ltd

Yr Academi Sgiliau

Sefydlwyd J.E.S. Group Ltd ym 1982 ac roedd yn arbenigo mewn saernïo a gosod pibellau ac fe'i hymgorfforwyd ym mis Mai 2015. Mae'n cyflogi 114 o staff ar hyn o bryd, mae bellach yn gwmni peirianneg mecanyddol amlddisgyblaethol sy'n ymwneud â gwaith contract mawr. 

Mae angen cyllid grant ar y cwmni ar gyfer academi sgiliau o'r radd flaenaf i ddatblygu sgiliau Saernïo a Weldio sy'n cyd-fynd ag anghenion y diwydiant a'r cyfleoedd a gyflwynir gan Sero Net, yr Economi Gylchol a'r Porthladd Rhydd Celtaidd.

Bydd y prosiect yn defnyddio'r technolegau digidol, rhyngweithiol diweddaraf ochr yn ochr â hyfforddiant wyneb yn wyneb arbenigol, i fanteisio ar y gronfa fawr o sgiliau a gronnwyd gan y gweithlu presennol.

Enw'r cwmni Sgiliau: Teitl y Prosiect ac Amlinelliad o'r Prosiect

Lluosi

Inspire Training

Sgiliau allweddol yn y gweithle

Rydym yn awyddus i adfywio a dyblygu ein rhaglen 'Sgiliau allweddol yn y gweithle’ a gyflwynwyd gennym fel ACT Enhance yn flaenorol. Mae hyn yn cynnwys y 3 maes rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol i'r rheini sy'n 19+ oed nad ydynt wedi cael TGAU yn y meysydd pwnc hyn yn flaenorol. Roedd y rhaglen yn llwyddiannus ac yn boblogaidd gyda'n darpariaeth sy'n cwmpasu Casnewydd, Caerdydd, Y Fro, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd/Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Cyflwynom i gyflogwyr mawr ag enw da fel Admiral Insurance, GIG Bro Morgannwg, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Tata Steel, Tesco a llawer o fusnesau bach a chanolig. Cafodd sgiliau eu gwreiddio drwy gyfrifoldebau swydd pob gweithiwr gan eu gwneud yn fwy cynhyrchiol ac effeithlon yn eu rolau swyddi.

Nododd cyflogwyr gyfradd cadw staff uwch a set sgiliau uwch ymhlith staff ac unigolion sy'n ymgeisio am swyddi uwch a phrentisiaethau astudio. Ein canran cyrhaeddiad ar gyfer y rheini a gychwynnodd yr hyfforddiant ac a enillodd y cymwysterau a gynigiwyd oedd 94%.

Enw'r cwmni Lluosi: Teitl y Prosiect ac Amlinelliad o'r Prosiect