Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Cynlluniau Grant Castell-nedd Port Talbot

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi datblygu ystod o gynlluniau grant i adeiladu ar ein heriau, ein cryfderau, ein hanghenion a'n cyfleoedd lleol i sicrhau y gall pob ardal o'n cymunedau ddefnyddio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU i ymfalchïo mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd.

Datblygwyd y cynlluniau grant i ategu a chyd-fynd â phrosiectau angori strategol Castell-nedd Port Talbot a rhaglenni cyllido eraill e.e. Cronfa Codi'r Gwastad, y Fargen Ddinesig.

Mae meini prawf cymhwysedd penodol gan bob cynllun grant a dylai ymgeiswyr gyfeirio at ganllawiau penodol y cynllun grant cyn gwneud cais.

Cynlluniau grant Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Castell-nedd Port Talbot

Mae'r £2.8m o Grantiau Buddsoddi mewn Busnesau a Sefydlu Busnesau Newydd yn rhan o waith Cyngor Castell-nedd Port Talbot i ddarparu ei ddyraniad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Grant Buddsoddi mewn Busnesau

Y grant isaf sydd ar gael yw

£500

Y grant uchaf sydd ar gael yw

£50,000

Nod y gronfa

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ystyried buddsoddiad mewn sefydlu busnesau newydd, datblygu busnesau presennol a denu mewnfuddsoddwyr yn hanfodol i gefnogi cymunedau lleol a'r economi.

Mae buddsoddi mewn datblygu busnesau lleol yn hanfodol er mwyn sicrhau cynaladwyedd tymor hir unrhyw fenter, drwy adeiladu cadernid, gallu, cynyddu cynhyrchiant, gwella sgiliau a datblygu eu hyblygrwydd i ymateb i anghenion cyfnewidiol yr economi ehangach. Yn ogystal, mae angen buddsoddiadau sy'n lleihau effaith busnesau ar yr amgylchedd.

Gyda buddsoddiad o'r fath, mae Castell-nedd Port Talbot yn meithrin economi fwy deinamig, arloesol, gwyrddach ac amlbwrpas, gyda gweithlu medrus a hyblyg sy'n gallu gwrthsefyll yr heriau sy'n wynebu'r economi fyd-eang dros amser.

Mae grantiau o rhwng £500 a £50,000 ar gael, yn ôl disgresiwn, a chânt eu hystyried fesul achos

Grantiau Sefydlu Busnes

Y grant uchaf sydd ar gael yw

£5000

Nod y gronfa

Mae'r arian a ddarperir dan y rhaglen ar gael i gynorthwyo busnesau newydd i gael eu sefydlu a darparu cyflogaeth amser llawn neu ran-amser i'r ymgeisydd.

Gall ymgeiswyr hawlio hyd at £5,000 i helpu gyda chostau sefydlu - caiff 100% o arian cyfatebol ei ddarparu ar gyfer grantiau hyd at £2,000 a 50% ar gyfer grantiau rhwng £2,000 a £5,000

Rhoddir yr arian yn ôl disgresiwn a chaiff ceisiadau eu hystyried fesul achos ar ôl asesu meini prawf cymhwysedd y grant a buddion y grant i'r busnes

Gwybodaeth ymgeisio

Mae proses ymgeisio dau gam ar-lein i'w dilyn:

  1. Mynegiant o ddiddordeb
  2. 2. Cais

I drafod eich prosiect arfaethedig, anfonwch e-bost i spfbusiness@npt.gov.uk

Dyddiadau Cau ar gyfer Ymgeisio

Rownd 1 yn lansio'n fuan.

Gwneud cais am gynlluniau grant

Gweler grantiau unigol am fanylion.
  • Dylai ymgeiswyr sicrhau nad yw eu gweithgareddau arfaethedig yn dyblygu'r Prosiectau Angori neu brosiectau Annibynnol
  • Bydd angen i ymgeiswyr lenwi'r ffurflen cais am grant berthnasol gan ddefnyddio'r canllawiau cysylltiedig.
  • Nodwch y cynllun grant rydych chi'n gwneud cais amdano yn llinell destun yr e-bost.
  • Byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau o dderbyn eich cais
  • Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu a byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr am ragor o fanylion/eglurhad os oes angen.
  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod am y penderfyniad ariannu drwy e-bost.
  • Bydd Cytundebau Ariannu'n cael eu cyhoeddi gan gynnwys amodau dyfarnu'r grant.

Mae'r dogfennau canlynol ar gael i gefnogi'r broses ymgeisio:

Logo Llywodraeth y DU - Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Logo Ffyniant Bro