Cyfleusterau ailgylchu batri
Mewn ymgais i annog preswylwyr i beidio â rhoi batris a ddefnyddiwyd yn eu gwastraff cartref a'u hailgylchu yn lle, mae'r cyngor wedi darparu banciau casglu batris yn y mannau canlynol:
- Derbynfeydd Canolfannau Dinesig Port Talbot a Chastell-nedd,
- Llyfrgell Ganolog Port Talbot,
- Siop dan yr Unto ym Mhontardawe,
- Canolfan Gweithredu Lleol Sandfields ac Aberafan Newydd
- Canolfannau ymwelwyr Parc Margam, Parc y Gnoll a Pharc Coedwig Afan.
Gellir mynd â batris Cartref i Ganolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu Llansawel, y Cymer a Phontardawe, lle mae cyfleusterau ar gyfer pob math o wastraff cartref peryglus megis paent, olew a thiwbiau golau fflworolau eisoes ar gael.