Casgliadau cewynnau untro a gwastraff anymataliaeth
Pam rydym ni’n cyflwyno’r cynllun hwn
Mae hwn yn gynllun PEILOT ar gyfer y 12 mis nesaf a derbynnir yr holl adborth gan breswylwyr yn ddiolchgar. Gellir anfon unrhyw sylwadau i environment@npt.gov.uk i’w hystyried fel rhan o ganlyniad y treial.
Cymru sydd â’r gyfradd ailgylchu uchaf yn y Deyrnas Unedig, ond os ydym i gyflawni targedau ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru, sy’n heriol – ac osgoi dirwyon – mae angen i ni ailgylchu mwy fyth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i holl Gynghorau Cymru goladu gwybodaeth am dunelledd yn eu hardaloedd, gyda’r uchelgais dymor hwy o anfon y cewynnau a gesglir i gyfleuster Cymru gyfan penodol i’w trin. Yn y cyfamser, anfonir y cewynnau i gyfleusterau troi gwastraff yn ynni.
Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno i annog ein trigolion i fod yn rhan o’r gwasanaeth, ac i’r cyngor fedru canfod faint o dunelli gallwn ni eu casglu. Ni fydd ein trigolion bellach yn gallu gwneud cais am sticeri Eithriadau Gwastraff Ochr ar gyfer cewynnau a Chynnyrch Hylendid Amsugnol (AHP).
Yn lle hynny, rhoddir rholiau o 52 bag porffor i chi, y dylid eu defnyddio ar gyfer y math yma o wastraff. Gallwch archebu rholiau ychwanegol yn ôl y galw.
Sticeri E
Nid ydym yn rhoi'r gorau i ddefnyddio Sticeri E. Bydd y Cyngor yn parhau â'i gynllun Eithrio Gwastraff Ochr ar gyfer gwastraff arall na ellir ei ailgylchu ar yr amod bod aelwydydd yn ailgylchu popeth y gallant.
Gall preswylwyr barhau i ddefnyddio eu Sticeri E nes eu bod wedi derbyn eu bagiau porffor.
Os ydych yn derbyn eithriadau ar gyfer eitemau heblaw cewynnau e.e. gwastraff anifeiliaid anwes, gallwch ailymgeisio am Sticeri E unwaith y bydd eich 12 mis wedi dod i ben.
Cymhwysedd
Rydych chi’n gymwys i dderbyn y casgliadau os oes gan eich aelwyd unrhyw rai o’r eitemau canlynol i’w gwaredu:
- Cewynnau untro, gan gynnwys bagiau cewynnau a chlytiau sychu;
- Padiau anymataliaeth oedolion
- Cynfasau gwely amsugnol
- Ffedogau untro
- Menyg plastig
- Bagiau colostomi/stoma a cathetr
Os ydych yn warchodwr plant cofrestredig neu’n feithrinfa bydd eich casgliadau yn dod o dan ein Gwasanaeth Gwastraff Masnachol.
Eitemau ni fyddwn yn casglu
Ni fyddwn yn casglu'r eitemau canlynol fel rhan o'r cynllun. Dylech barhau i roi yr eitemau hyn yn eich bin/bagiau du.
- Cynnyrch hylendid benywod (e.e. llieiniau a leinwyr mislif a thamponau)
- Gwastraff anifail anwes
- Padiau cŵn bach
Sut mae’r casgliadau’n gweithio
Bydd y casgliadau’n digwydd bob pythefnos (ar yr un diwrnod â’ch casgliadau bin du/bag du). Gallwch gyflwyno eich bag AHP porffor yn ymyl eich bin/bagiau du.
Nid oes terfyn ar nifer y bagiau porffor y gallwch eu cyflwyno i’w casglu, cyhyd ag nad yw’r bagiau’n cynnwys unrhyw eitemau gwastraff eraill.
Fel rhan o’r cyfnod arbrofol mae gennym ni ddwy lori gasglu arbennig. Mae’n bosib y bydd eich lori casglu sbwriel arferol yn casglu eich bagiau porffor os nad yw’r cerbyd arbrofol yn eich ardal.
Os ydych yn derbyn cymorth gyda’ch casgliad gwastraff ac ailgylchu byddwch yn derbyn casgliad AHP â chymorth yn awtomatig.