Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Casglu eitemau swmpus

Gallwn drefnu casgliad ar gyfer eitemau gwastraff cartref swmpus fel matresi, soffas, oergelloedd a phoptai.

Sut mae'r casgliad yn gweithio

  • Dewiswch ddyddiad casglu pan fyddwch yn trefnu ar-lein
  • Mae casgliadau'n dechrau o 6am tan 2:00pm. Rhowch eich eitemau allan i'w casglu'r noson gynt.
  • Rhaid cadw eitemau yn sych. Os ydych chi'n gadael eitem a allai amsugno dŵr (er enghraifft matres neu soffa), gorchuddiwch nhw. Gall eitemau gwlyb fod yn rhy drwm i'w codi ac efallai na fyddant yn cael eu casglu.
  • Casgliad wrth ymyl y ffordd yw hwn felly cyflwynwch eitemau o flaen eich eiddo.
  • Byddwn ond yn casglu eitemau sydd wedi eu rhestru wrth drefnu.
  • Rhaid i eitemau fod yn rhydd o ysgarthion. Ni fydd unrhyw eitemau a gyflwynir gyda ysgarthion yn cael eu casglu ac ni roddir ad-daliad
  • Codir tâl am y gwasanaeth hwn sef £27 am hyd at 7 eitem. Rhaid drefnu a thalu am bob casgliad ymlaen llaw. Bydd angen cerdyn debyd neu gredyd arnoch am y daliad.

Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i beidio â chasglu eitemau ychwanegol sydd wedi eu cyflwyno.

Enghraifft
Bwrdd a phedair cadair yn cyfrif fel pum eitem

Enghraifft
Mae ffrâm wely, matres, a phenfwrdd yn cyfrif fel tair eitem
Ni ellir defnyddio'r gwasanaeth hwn ar gyfer clirio tai na gwastraff adeiladu ac mae ar gyfer preswylwyr domestig yn unig. Nid ydym yn cynnig y gwasanaeth hwn i fusnesau / landlordiaid. Ni ellir defnyddio'r gwasanaeth hwn ar gyfer clirio tai na gwastraff adeiladu ac mae ar gyfer preswylwyr domestig yn unig. Nid ydym yn cynnig y gwasanaeth hwn i fusnesau / landlordiaid.

Eitemau rydym yn eu casglu

Byddwn yn casglu
  • dodrefn
  • setiau teledu a nwyddau trydanol mawr
  • carpedi
  • cyfarpar gan gynnwys peiriannau golchi, oergelloedd a rhewgelloedd
  • offer chwarae - datgysylltwch eitemau mawr fel trampolinau

Mae eitemau'n cael eu hailgylchu / ailddefnyddio lle bo modd.

Eitemau na fyddwn yn eu casglu

Ni fyddwn yn casglu
  • asbestos
  • boeleri, poteli nwy neu danciau olew
  • gwydr wedi torri
  • adeiladu neu wastraff dymchwel – ceginau / ystafelloedd ymolchi
  • gwastraff clinigol
  • ffenestri a drysau allanol
  • o Adeilad Masnachol
  • gwastraff gardd
  • siediau gardd neu baneli ffensys
  • bagiau cyffredinol o sbwriel, e.e. bagiau du
  • gwydr/drychau
  • gwastraff cartref peryglus
  • pianos
  • tuniau o baent
  • toiledau
  • gwastraff masnachol
  • teils wal llawr
  • baledi pren

Bydd rhai o'r eitemau hyn yn cael eu derbyn gan drigolion yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.

Cyn i chi ddechrau

  • Dim ond eitemau sydd wedi'u bwcio i mewn bydd yn cael eu casglu.
  • Dim ond uchafswm o 7 eitem i bob casgliad y byddwn yn eu codi. Nid gwasanaeth clirio tai yw hyn.
  • Bydd angen cerdyn debyd neu gredyd arnoch i dalu.
Casgliad wrth ymyl y ffordd yw hwn felly cyflwynwch eitemau o flaen eich eiddo.

Gwneud newidiadau neu ganslo.

Gallwch wneud newidiadau ar-lein. Mae hyn yn cynnwys

  • canslo
  • newid
  • diweddaru'r eitemau i'w casglu
Er mwyn derbyn ad-daliad, rhaid canslo 48 awr cyn gwneud eich casgliad.

Rhoi eitemau

Os yw'r eitemau mewn cyflwr da efallai y bydd gan rai elusennau ddiddordeb mewn mynd â'r eitemau i'w rhoi i deuluoedd mewn angen. Ein partner elusenol yw Sefydliad Enfys y gellir cysylltu â hwy ar 01639 641631.

Gallwch hefyd gyfrannu i'n Siop Ailddefnyddio, sydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Ailgylchu Llansawel.