Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cyfleusterau ailgylchu batri

Mewn ymgais i annog preswylwyr i beidio â rhoi batris a ddefnyddiwyd yn eu gwastraff cartref a'u hailgylchu yn lle, mae'r cyngor wedi darparu banciau casglu batris yn y mannau canlynol:

  • Derbynfeydd Canolfannau Dinesig Port Talbot a Chastell-nedd,
  • Llyfrgell Ganolog Port Talbot,
  • Siop dan yr Unto ym Mhontardawe,
  • Canolfan Gweithredu Lleol Sandfields ac Aberafan Newydd
  • Canolfannau ymwelwyr Parc Margam, Parc y Gnoll a Pharc Coedwig Afan.

Gellir mynd â batris Cartref i Ganolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu Llansawel, y Cymer a Phontardawe, lle mae cyfleusterau ar gyfer pob math o wastraff cartref peryglus megis paent, olew a thiwbiau golau fflworolau eisoes ar gael.