Ystyriaethau wrth osod y gyllideb
Ffactorau allweddol eraill sydd wedi llunio’r gyllideb oedd:
Galw ar wasanaethau’r cyngor
Mae'r galw ar wasanaethau ar draws y cyngor wedi parhau i gynyddu ac mae'n parhau i fod ar lefelau uchel iawn. Mae mwy o bobl yn ceisio cymorth a chefnogaeth yn dilyn y pandemig, llawer ohonynt ag anghenion mwy cymhleth. Mae'r rhain yn arbennig yn:
- gwasanaethau tai a digartrefedd
- gwasanaethau cymdeithasol oedolion a phlant
-
addysg
Chwyddiant
Sefydliadau eraill
Mae'r cyfraniadau y mae'r cyngor yn eu talu i sefydliadau eraill hefyd wedi cynyddu. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r cyngor wedi gorfod dod o hyd i £2.8m yn ychwanegol i gadw gwasanaethau hamdden dan do i fynd. Yn ogystal, mae'r taliad blynyddol y mae'n ofynnol i ni ei wneud i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cynyddu £877,000 (9.4%), gan wneud cyfanswm y taliad eleni yn £10.8m.
Cyllidebau yn y dyfodol
Gan gydnabod y bydd cyllidebau ar gyfer y dyfodol mewn gwasanaeth lle mae galw mawr amdanynt yn parhau i fod yn heriol, mae angen i ni ddatblygu atebion arloesol i ymateb i anghenion ein cymunedau. Mae nifer o gynigion buddsoddi i arbed i helpu i leihau'r galw yn y blynyddoedd i ddod wedi'u cynnwys yn y gyllideb eleni.
Bwlch cyllidol
Mae hyn i gyd yn golygu bod y cyngor, yn 2024-2025, yn wynebu pwysau costau newydd o tua £30m. Fodd bynnag, mae'r cyllid ychwanegol y mae'r cyngor wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024-2025 o £8.6m yn sylweddol is na'r hyn sydd ei angen arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol. Mae hyn yn golygu, yn y gyllideb eleni, bod angen i'r cyngor ddod o hyd i ffyrdd o ddelio â bwlch cyllido o dros £21m.