Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cau'r bwlch cyllidebol.

Dyma'r opsiynau sydd gan y cyngor i gau'r bwlch hwn:

  1. lleihau costau / cynyddu incwm
  2. defnyddio arian wrth gefn
  3. cynyddu Treth y Cyngor

Mae lleihau costau wrth ddiogelu gwasanaethau yn dod yn anoddach bob blwyddyn. Mae'r cyngor wedi wynebu gostyngiadau mewn lefelau cyllid dros fwy na deng mlynedd gyda thua £100m o doriadau yn y gyllideb refeniw ers hynny.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae swyddogion wedi gweithio'n galed eto i nodi cynigion arbedion ac incwm. Yr haf diwethaf, yng nghamau cynnar ein gwaith ar y broses gyllidebu, buom yn siarad â phobl fel rhan o’n Hymgyrch Dewch i Siarad am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Ac, ym mis Rhagfyr, dechreuodd ymgynghoriad ffurfiol ar y gyllideb ddrafft pan roddodd mwy na 550 o bobl adborth inni a gafodd ei ystyried yn ofalus wrth ddatblygu cynigion y gyllideb derfynol.

Yn ogystal, cynhaliwyd ymgynghoriadau ar wahân ar gynigion penodol.

Gwnaethom wrando'n astud ar farn pobl a gwneud nifer o ddiwygiadau i'r cynigion cyllidebol:

  • ni fydd terfynu cytundebau trwydded a hawliau mynediad cyhoeddus ar rannau uchaf ac isaf Camlas Castell-nedd yn dod i ben
  • yn dilyn adborth na fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno â diffodd goleuadau stryd, byddwn nawr yn argymell pylu’r rhain yn hytrach na’u diffodd
  • bydd cynnig arall sy’n ymwneud ag adennill costau gan ysgolion ar gyfer rhai gwasanaethau’r cyngor megis glanhau, yn awr yn cael ei ddiwygio i leihau’r effaith ar ysgolion cymaint â phosibl

Roedd cytundeb eang y dylid defnyddio cronfeydd wrth gefn penodol i ariannu costau gwasanaethau cymdeithasol gyda'r bwriad o weithredu mesurau arbed costau tymor hir.

Cau'r bwlch mewn niferoedd

Mae'r bwlch o £30.1m yn y gyllideb wedi cael ei leihau i £6.7m drwy:

  • cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru - £8.6m
  • cyfraniad o'r cronfeydd wrth gefn - £6m
  • arbedion - £6.6m
  • cynigion cynhyrchu incwm - £2.2m

Bydd angen ariannu'r bwlch hwn o £6.7m drwy'r Dreth Gyngor.

Cau'r bwlch mewn niferoedd Cau'r bwlch mewn niferoedd

Dysgwch fwy am eich Treth Gyngor a sut mae'n cael ei wario yn helpu i ariannu gwasanaethau yng Nghastell-nedd Port Talbot.