Esboniad o gyllideb 2024-25
Mae gosod y gyllideb yn broses gymhleth lle mae'r cyngor yn llunio ei gynlluniau i ariannu'r gwasanaethau hanfodol y mae'n eu darparu ar draws y flwyddyn i ddod.
Yn ôl y gyfraith, mae angen i'r cyngor bennu cyllideb gytbwys. Mae hyn yn golygu na allwn wario mwy o arian na'r adnoddau sydd gennym ar gael.
Daw cyllid y cyngor o ddwy brif ffynhonnell:
- Grantiau Llywodraeth Cymru
- Treth y Cyngor
Prif amcanion cyffredinol y cyngor yn y broses o bennu'r gyllideb eleni yw:
- i ddiogelu gwasanaethau a swyddi ac i gyfyngu ar yr effaith ar lefelau Treth y Cyngor
- ymateb i’r hyn a ddywedodd ein cymunedau wrthym sy’n bwysig drwy’r ymgyrch ymgysylltu Dewch i Siarad a’n hymgynghoriad ar y Gyllideb, cyn belled ag y bo modd o ystyried yr arian cyfyngedig sydd ar gael.
Eich adborth
Ers yr haf diwethaf, rydym wedi cael adborth gan fwy na 2,500 o bobl drwy:
- ein hymgyrch ymgysylltu Dewch i Siarad yn gynnar yn y broses o osod y gyllideb
- pobl a ymatebodd i’n hymgynghoriadau cyhoeddus yn y cyfnod cyn gosod y gyllideb derfynol
Rydym wedi gwrando’n astud ar farn pobl. Er na allwn fforddio gwneud popeth, rydym wedi gwneud nifer o newidiadau i’r cynigion cyllidebol y cytunwyd arnynt yn y Cabinet a’r Cyngor ar 6 a 7 Mawrth 2024.
Gallwch ddarllen yr adroddiad cyllideb llawn yn www.npt.gov.uk/adroddiadcyllideb. Mae'n cynnwys:
- rhestr o gynigion ar gyfer arbedion a chynhyrchu incwm
- crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad
- rhestr o ragdybiaethau chwyddiant
- y gyllideb fanwl