Datganiad o Gyfrifon 2022-2023
Cwblhau Cyfrifon - Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
HYSBYSIR drwy hyn fel a ganlyn:
Gan gydymffurfio â’r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio, mae’r Archwilydd Penodedig wedi ardystio bod Archwiliad Cyfrifon Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023 wedi ei gwblhau yn unol â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a’r Cod Ymarfer Archwilio a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Yn unol â’r darpariaethau yn y Rheoliadau uchod, gellir gweld y Dataganiad o Gyfrifon ar wefan y cyngor, www.npt.gov.uk. Neu gellir archwilio copïau drwy apwyntiad, yn y Gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Canolfan Dinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.
Dyddiedig 14 Tachwedd 2023
K Jones
Prif Weithredwr
Canolfan Dinesig, Port Talbot.
Llawrlwythiadau
-
Annual Governance Statement 2022-2023 (PDF 1.80 MB)
-
Margam Crematorium Annual Return 2022-2023 (PDF 2.90 MB)
-
Statement of Accounts 2022-2023 (PDF 1,015 KB)
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru - Archwiliad o gyfrifon 2022/23
Hysbysiad o ardystio cwblhau'r archwiliad
RHODDIR HYSBYSIAD CYHOEDDUS DRWY HYN, bod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cwblhau'r archwiliad o'r cyfrifon uchod ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 o dan Reoliad 13 o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'u diwygiwyd 2018)
- Cyhoeddwyd barn ddiamod a thystysgrif y cyfrifon gan yr Archwilydd, Archwilio Cymru, ar gyfer y flwyddyn honno.
- Mae Datganiad o Gyfrifon 2022/23 ac Adroddiad yr Archwilydd ar gael i'w harchwilio gan etholwyr llywodraeth leol drwy wneud cais ysgrifenedig i'r Prif Swyddog Cyllid yn y cyfeiriad isod neu drwy eu lawrlwytho o wefan y Comisiynydd.
David Holloway Young
Prif Swyddog Cyllid
Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru
Heol y Bont-faen
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3SU
20fed Tachwedd 2023