Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad o Gyfrifon 2019-2020

Datganiad o Gyfrifon Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) ar gyfer 2019-20

Mae rheoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'u diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol Cyd-bwyllgor Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) lofnodi a dyddio'r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n berthnasol iddi, ac o incwm a gwariant y corff hwnnw am y flwyddyn honno. Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau erbyn 15 Mehefin 2020.

Nid yw'r Swyddog Ariannol Cyfrifol wedi llofnodi nac ardystio'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020. O ganlyniad i argyfwng COVID-19, mae'r Cyd-bwyllgor wedi dargyfeirio adnoddau i wasanaethau eraill ac nid yw'r datganiad o gyfrifon wedi'i baratoi eto. Caiff y datganiad o gyfrifon ei baratoi, a bydd y Swyddog Ariannol Cyfrifol yn ei lofnodi a'i ardystio pan fydd pwysau uniongyrchol argyfwng
COVID-19 wedi lleddfu.