Esboniad o'ch Treth y Cyngor 2024-2025
Nid yw Treth y Cyngor a dalwch yn cael ei gyfrifo ar sail pa wasanaethau rydych yn eu derbyn neu'n eu defnyddio. Mae'n cyfrannu tua chwarter i'r gyllideb sydd ei hangen ar y Cyngor i ddarparu gwasanaethau hanfodol i drigolion a busnesau.
Daw cyllid y cyngor o ddwy brif ffynhonnell:
- grantiau Llywodraeth Cymru
- Treth y Cyngor
Dyma sut mae cyllideb 2024-25 wedi’i llunio:
Lefelau Treth y Cyngor 2024-25
Y cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer eleni yw 7.9%.
Mae hynny’n gynnydd cyfartalog o £2.25 yr wythnos, wedi’i wneud i fyny fel a ganlyn:
- taliad i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru - 1.24%
- cymhorthdal i Celtic Leisure i redeg gwasanaethau hamdden dan do - 2.00%
- cyfraniad at gost rhedeg gwasanaethau’r cyngor - 4.66%
Dyma ddadansoddiad o'r cynnydd ar gyfer pob band eiddo:
Band eiddo | Nifer y cartrefi yn y band hwn |
Cynnydd wythnosol yn Nhreth y Cyngor fesul cartref
|
---|---|---|
A | 13,344 | £1.76 |
B | 26,416 | £2.05 |
C | 11,387 | £2.34 |
D | 7,195 | £2.64 |
E | 4,358 | £3.22 |
F | 1,353 | £3.81 |
G | 529 | £4.39 |
H | 95 | £5.27 |
I | 14 | £6.15 |