Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Egluro eich bil Treth y Cyngor

Mae'r ddelwedd hon yn dangos enghraifft o fil treth gyngor. Mae pob adran sydd wedi'i rhifo yn cael ei hesbonio'n fanwl ar ôl y ddelwedd.

Bil Treth y Cyngor 2024-2025 Bil Treth y Cyngor 2024-2025

Beth mae pob adran rifol yn ei olygu

  1. Enw'r person neu'r bobl sy'n gyfrifol am dalu'r bil.
  2. Dyddiad argraffu eich bil treth gyngor. Ni fydd unrhyw daliadau a wneir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu dangos ar y bil hwn.
  3. Dyma eich rhif cyfrif Treth Cyngor. Ceisiwch gael y rhif hwn gyda chi os oes angen i chi gysylltu â ni neu wrth wneud taliad.
  4. Ym mha fand treth cyngor mae eich eiddo.
  5. Y cyfeiriad bilio.
  6. Y flwyddyn ariannol ar gyfer y bil hwn.
  7. Eich cyfraniad at wasanaethau’r cyngor.
  8. Eich cyfraniad tuag at eich Cyngor Tref neu Gymuned, os ydych yn byw mewn ardal sydd ag un.
  9. Eich cyfraniad at Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.
  10. Dyma'r swm sy'n ddyledus gennych cyn unrhyw ostyngiadau.
  11. Dyma'r cyfnod o amser y mae'r bil yn ei gwmpasu.
  12. Mae unrhyw ostyngiadau a roddir i'ch bil yn cael eu dangos yma.
  13. Dyma gyfanswm y dreth gyngor y mae angen i chi ei thalu.
  14. Mae hyn yn dangos y dull talu rydych wedi'i sefydlu. Y ffordd hawsaf o dalu yw trwy ddebyd uniongyrchol ond mae ffyrdd eraill o dalu.
  15. Dyma fanylion y rhandaliadau, y symiau sy'n ddyledus a dyddiadau pryd mae angen i chi dalu pob rhandaliad.

Ar gefn eich bil Treth y Cyngor

Mae gan gefn eich bil treth gyngor wybodaeth sy'n cynnwys sut i:

  • rhoi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau
  • gwneud cais am ostyngiadau
  • apêl