Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ble mae Treth y Cyngor yn mynd

Dyma ddadansoddiad manwl o sut mae Treth y Cyngor yn helpu i ddarparu gwasanaethau yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn seiliedig ar dâl Band D sef £1,871.76.

Defnyddir tâl Treth y Cyngor Band D fel cyfeirbwynt i osod Treth y Cyngor ar gyfer yr holl fandiau eraill. Mae tua 51,000 o eiddo yng Nghastell-nedd Port Talbot (79%) ym mandiau A, B ac C. Mae hyn yn golygu mai Treth y Cyngor ar gyfartaledd ar gyfer y fwrdeistref sirol yw £1,595.52.

Cymorth Treth y Cyngor

Mae gan y cyngor Gynllun Cymorth Treth y Cyngor sy'n helpu aelwydydd cymwys i leihau eu biliau.

Os ydych ar incwm isel neu'n cael budd-daliadau gan gynnwys Credyd Cynhwysol, efallai y bydd gennych hawl i Gymorth Treth y Cyngor.

Mae Cymorth Treth y Cyngor yn cael ei roi ar eich cyfrif Treth y Gyngor a bydd yn lleihau eich bil. Darganfyddwch fwy o wybodaeth am Help i leihau eich bil.

Allan o gyfanswm o 67,000 o gartrefi yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae 15,500 eisoes yn derbyn Cymorth Treth y Cyngor. Allan o'r 15,500:
  • 10,850 yn talu dim Treth y Cyngor
  • dim ond swm rhannol y mae'r gweddill yn ei dalu

Mae Cymorth Treth y Cyngor yn destun prawf modd. Mae hyn yn golygu bod y rhai sydd ei angen fwyaf yn ei gael.

Ble mae treth cyngor yn mynd Treth cyngor