Gwneud Penderfyniadau ar Sail Data ac Ymchwil
Byddwn yn moderneiddio sut rydym yn rheoli ac yn rhannu ein data, gan ymgorffori ymchwil a dadansoddi data yn ein prosesau gwneud penderfyniadau, tra’n creu'r gallu, y seilwaith, y gwytnwch a’r cydweithrediadau cywir.
- Datblygu a chyhoeddi Strategaeth Data a Gwybodaeth Busnes CnPT
- Sefydlu Bwrdd Ymchwil CnPT/Bwrdd Rheoli Data CnPT.
- Sicrhau ymwybyddiaeth ac aliniad i'r safonau data cyfredol.
- Archwilio materion ansawdd data gan ddechrau gyda'r setiau data mwyaf hanfodol.
- Sicrhau bod data ac ymchwil yn rhan greiddiol o'r broses o wneud penderfyniadau strategol ar gyfer rhaglenni gwaith newydd.
- Sicrhau bod modelu data cymhleth (cysyniadol, rhesymegol, ffisegol) o safon uchel ac y gellir ei ddefnyddio i nodi cyfleoedd posibl, gan alluogi a hwyluso prosesau gwneud penderfyniadau.
- Trefnu hyfforddiant a mewnbwn ar draws timau er mwyn cynorthwyo rheolwyr i ddadansoddi data yn eu meysydd eu hunain a defnyddio dadansoddeg i fonitro'r defnydd o adroddiadau ar draws y cyngor.
- Nodi, datblygu a gweithredu llwyfannau data a fydd yn galluogi defnydd trawsnewidiol o ddata gan gynnwys Dysgu Peirianyddol a Deallusrwydd Artiffisial (AI), gan arwain at ddadansoddeg
ragfynegol ddyfnach. - Datblygu dulliau o grynhoi a chyflwyno setiau a chasgliadau data hynod gymhleth yn y fformat mwyaf priodol i ddefnyddwyr.
- Nodi cyfleoedd ar gyfer ymchwil a gwerthuso mentrau’r awdurdod lleol – fel bod ein dadansoddiad o'n data yn ystyrlon, yn ddefnyddiol ac yn berthnasol i'n trigolion.
- Rheoli a defnyddio ein hasedau data yn fwy effeithiol, llywio penderfyniadau allweddol ar sail ffeithiau r mwyn 'Gweithio'n ddoethach nid yn galetach'.
- Bydd gwella ansawdd data yn cynyddu cyfleoedd i'w ddefnyddio, lleihau risgiau a chostau sy'n gysylltiedig â data o ansawdd gwael, yn lleihau dyblygu ac yn arbed amser i staff.
- Bydd defnyddio safonau data y cytunwyd arnynt o fewn y cyngor yn rhoi cysondeb i'r data, gan alluogi cysylltiad rhwng setiau data mewnol a gyda setiau data agored allanol, a chynyddu'r
defnydd posibl o'r data a chynyddu effeithlonrwydd. - Bydd cysylltu setiau data’n rhoi golwg ehangach ac yn arwain at fewnwelediadau newydd nad oeddent ar gael o'r blaen.
- Bydd gwell dealltwriaeth o'r corff o wybodaeth ac ymchwil sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd yn galluogi uwch reolwyr i seilio’u penderfyniadau ar ymchwil sylfaenol a'r dystiolaeth bresennol.
Sicrhau bod y canlyniadau disgwyliedig yn cael eu gwireddu. - Pan fo’n data'n cael ei gadw'n ddiogel, mae mwy o ymddiriedaeth yn y ffordd rydym yn ei ddefnyddio.
- Bydd cydweithredu ar draws ystod eang o sectorau a sefydliadau yn hanfodol er mwyn cyflawni ein nodau oherwydd fel cyngor nid oes gennym yr holl sgiliau hyn yn fewnol.
- Bydd gwell dealltwriaeth o brofiad byw grwpiau na chlywir ganddynt yn aml yn ein galluogi i ddarparu gwell gwasanaethau iddynt.
- Cefnogi ein dangosyddion a'n mesurau gwasanaeth meintiol ac ansoddol ein hunain.
- Cyflawni'n fach a dysgu wrth i ni dyfu.
- Defnyddio 'Cwmwl yn gyntaf' (lle bo'n bosibl), a datblygu llwyfan unedig a fydd yn symleiddio casglu a choladu data – gofyn unwaith, defnyddio sawl gwaith.
- Creu mesuriadau ansawdd data a chynlluniau gwella ar gyfer setiau data sydd â blaenoriaeth.
- Defnyddio dulliau ac offer dadansoddi priodol sy'n rhoi mewnwelediadau newydd a chyfoethach i wneud gwell defnydd o'n data a gwerthuso ein gwasanaethau a'n hymyriadau.
- Datblygu seilwaith, capasiti a gallu ymchwil hanfodol a gweithio i sicrhau bod ein data yn barod ar gyfer ymchwil.
- Creu llwybrau gyrfa ddigidol a data er mwyn sicrhau bod y sgiliau cywir gennym.
- Meithrin cydweithrediadau cryf â phartneriaid o'r byd academaidd, iechyd cyhoeddus, cyrff statudol, sefydliadau gwirfoddol a'r gymuned er mwyn cyd-greu ymchwil newydd a fydd yn rhoi'r
dystiolaeth sydd ei hangen arnom i lywio polisi ac ymarfer. - Mynd i'r afael ag ystyriaethau moesegol o ran data, preifatrwydd a gweithredu technoleg newydd.
Fel cyngor, mae gennym gyfoeth o ddata, i gyd wedi’i gasglu a'i brosesu fel rhan o'n gweithgareddau dyddiol. Mae hyn yn cynnwys data ariannol (trethi, budd-daliadau, tai), addysg (presenoldeb,gwaharddiadau, cyrhaeddiad, addysg uwch a hyfforddiant) a data amgylcheddol (parciau, ffyrdd, ansawdd aer).
Mae data ac ymchwil wedi cael eu nodi fel meysydd allweddol ar gyfer datblygu ac yn flaenoriaeth i'r cyngor ac o'r herwydd
maent wedi'u hymgorffori yn y Cynllun Corfforaethol. Mae hyn yn cynnwys y rhaglen o alluogwyr newid, ac mae un ohonynt yn nodi'n
benodol yr angen i gydgysylltu a defnyddio'r data sydd gennym er mwyn gwella ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig i'n trigolion
Trwy ddatblygu diwylliant trawssefydliadol sy'n cydnabod ein data fel adnodd gwerthfawr, strategol a dibynadwy, byddwn yn gyrru ei ddefnydd y tu hwnt i'r diben cychwynnol y caiff ei gasglu ar ei gyfer gan sicrhau bod rheolaethau diogelu data cadarn ar waith. Bydd aliniad i Fframwaith Moeseg Data Llywodraeth y DU hefyd yn ein helpu i sicrhau cydymffurfiaeth â'r egwyddorion cyffredinol gan gynnwys tryloywder, atebolrwydd a thegwch.
Byddwn yn hyrwyddo dull gweithredu lle mae data ar ei fwyaf pwerus
pan fydd o ansawdd uchel, o safonau derbyniol, yn ddarganfyddadwy,
yn hygyrch, yn rhyngweithredol, yn cael ei gadw'n ddiogel, ei rannu'n
briodol ac wedi'i gysylltu â setiau data gweinyddol allanol.